Marwolaeth Llanbedrog: Dyn yn euog o drosedd dryll
- Cyhoeddwyd

Roedd Peter Colwell yn 18 oed ac yn heliwr brwd
Mae dyn wedi cael ei ganfod yn euog o drosedd yn ymwneud â dryll, yn dilyn marwolaeth llanc 18 oed mewn maes parcio yng Ngwynedd.
Cafodd Peter Colwell ei saethu tra'n eistedd yn sedd gefn cerbyd 4x4 ym maes parcio tafarn y Llong yn Llanbedrog ger Pwllheli y llynedd.
Cafodd Ben Fitzsimons, 23, ei ganfod yn euog o fod â gwn wedi'i lwytho yn ei feddiant mewn man cyhoeddus gan y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon.
Mae'r rheithgor dal yn ystyried cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod yn erbyn Ben Fitzsimons a Ben Wilson, 29.
Roedd Mr Wilson eisoes wedi cyfaddef i un cyhuddiad o fod â gwn wedi'i lwytho yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Fe wnaeth dau ddyn arall - Michael Fitzsimons, 25, a Harry Butler, 23 - gael eu canfod yn ddieuog o fod â gwn wedi'i lwytho yn eu meddiant mewn man cyhoeddus.