Taliadau credyd cynhwysol 'yn rhy agos at y Nadolig'

  • Cyhoeddwyd
Banc Bwyd

Mae pryder y bydd cyflwyno trefn fudd-daliadau newydd mor agos at y Nadolig, yn creu trafferthion i bobl fregus ac yn bygwth gwasanaeth banciau bwyd.

Mae credyd cynhwysol eisoes mewn grym yn nifer o Ganolfannau Gwaith yng Nghymru, a bydd yr wyth swyddfa olaf yn newid i'r drefn newydd ddydd Mercher.

Ond yn ôl rheolwr banc bwyd Rhydaman, Mydrim Davies, mae'r amseru, gwta bythefnos cyn y Nadolig, yn "greulon".

Mae'n ofni y bydd mwy o alw nag yr arfer am gymorth y banc bwyd dros yr ŵyl.

Bydd Canolfannau Gwaith yn Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli, Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Porthmadog a Phwllheli, yn newid i'r system newydd, sy'n cyfuno chwe gwahanol fudd-dal i greu un taliad misol.

Ond mae'r rhai sy'n ei hawlio yn gorfod aros pum wythnos am eu taliad cyntaf, a dyna sy'n poeni Mr Davies.

Dywedodd ei fod yn pryderu y bydd mwy o alw am wasanaeth banc bwyd Rhydaman, sydd eisoes dan bwysau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mydrim Davies na fyddai'r banc bwyd yn gallu ymdopi gyda chynnydd pellach mewn defnydd

Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau byddai'r rhai sy'n gwneud cais am y tro cyntaf ac sy'n gallu profi eu hawl i dderbyn credyd cynhwysol, yn gallu cael blaendal o 100%.

Ond yn ôl Mr Davies yr hyn sy'n achosi pryder yw'r "effaith seicolegol ar bobl sy'n meddwl y byddan nhw'n cael eu heffeithio ganddo."

"Mae'r amseru, ychydig cyn y Nadolig, yn wael, fi'n credu, a gallai'n hawdd fod wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd."

Pwysau ar fanc bwyd

Mae Banc Bwyd Rhydaman yn gweithredu o ddau adeilad dros dro yng nghanol Rhydaman, a dywed Mr Davies fod cynnydd o 15% yn y defnydd eleni o'i gymharu â'r llynedd, ac nad oedd lle i gynnydd pellach.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, elusen sy'n cydlynu banciau bwyd yn y DU, roedd mwy o bobl wedi cael eu cyfeirio at fanciau bwyd yng Nghymru y llynedd oherwydd yr oedi cyn derbyn taliadau.

"Mae cydweithwyr mewn rhannau eraill o Gymru lle mae credyd cynhwysol yn weithredol, wedi gweld cynnydd o 40% i 50% yn y defnydd o fanciau bwyd yn y flwyddyn ddiwethaf," meddai llefarydd ar eu rhan.

Ychwanegodd Mydrim Davies: "Nid wyf yn credu y byddwn yn gallu ymdopi â chynnydd fel yna."

Dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau bod y newid yn cael ei reoli'n ofalus, gyda chefnogaeth un-i-un ar gyfer y rhai sy'n ei hawlio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Field, rheolwr gyda Chanolfannau Gwaith de-orllewin Cymru, yn "deall y pryderon"

Ychwanegodd Jonathan Field, rheolwr gyda Chanolfannau Gwaith de-orllewin Cymru, ei fod yn deall pam fod pobl yn poeni.

"Gallaf eu cysuro bod ganddynt hawl i dderbyn blaendal 100% o'u credyd cynhwysol, cyn belled â bod ganddynt dystiolaeth i gefnogi eu cais.

"Gellir ei dalu ar yr un diwrnod fel nad oes raid i neb sy'n gwneud cais newydd orfod dioddef dros gyfnod yr ŵyl."