Ydy hi'n ddiogel i ferch deithio'r byd ei hun?

  • Cyhoeddwyd

Mae llofruddiaeth Grace Millane, y ferch 22 oed o Loegr a gafodd ei lladd yn Auckland, Seland Newydd, wedi synnu'r byd.

Mae Seland Newydd yn wlad sy'n cael ei hystyried yn 'ddiogel', ac mae hyd yn oed y Prif Weinidog, Jacinda Ardern, wedi ymddiheuro i deulu Grace am ei gadael i lawr - "dylai hi fod wedi bod yn ddiogel yma", meddai mewn datganiad i'r wasg.

Fodd bynnag, mae rhai pobl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi canolbwyntio ar y ffaith mai teithio ar ei phen ei hun yn Seland Newydd oedd Grace pan gafodd ei lladd, gan awgrymu efallai ei bod wedi rhoi ei hun mewn peryg.

Yn 2016, aeth Lisa Jones, o'r Fenni, i deithio'r byd am 10 mis ar ei phen ei hun. Yma, mae'n siarad â Cymru Fyw am y profiadau anhygoel y cafodd hi wrth deithio, a pham nad yw'r newyddion diweddaraf am ei hatal rhag neidio ar awyren eto.

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Lisa Jones i deithio'r byd am ddeg mis yn 2016

Fel Grace Millane, o'n i'n 21 oed ac ar fin graddio pan nes i brynu fy nhocyn un-ffordd i Awstralia. 'Nes i ddechrau fy nhaith drwy weithio fel au pair am dri mis, ac wedyn 'nes i ddechrau croesi gwledydd oddi ar y bucket list.

O fewn rhyw 10 mis, o'n i wedi teithio arfordir dwyreiniol Awstralia, o Melbourne i Darwin; treulio mis yn gwirfoddoli ar ynys bellennig yn Fiji; teithio Ynys y De Seland Newydd am fis; treulio dau fis yn dod i 'nabod y Pilipinau ac ymweld â theulu; picio draw i Singapore a Hong Kong am 'chydig o wythnosau; a gorffen y daith yn Bali cyn dychwelyd adre' i Gymru.

Drwy gydol fy nhaith, does gen i'r un cof o beidio teimlo'n ddiogel. A phan 'nes i brynu fy nhocyn un ffordd, 'nes i fyth deimlo mod i'n gwneud penderfyniad risky drwy fynd i deithio ar fy mhen fy hun. Yn wir, o'n i'n teimlo dim ond cyffro am yr antur unwaith-mewn-bywyd 'ma o'n i ar fin ei ddechrau!

Wrth gwrs, roedd fy rhieni yn poeni amdanaf fi dros y misoedd o'n i i ffwrdd, ond mae Dad yn aml yn sôn ei fod yn poeni llai amdanaf fi pan o'n i'n teithio achos o'n i'n tecstio'n amlach na dwi'n ei 'neud nawr!

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Lisa ar waelod pyramid o ffrindiau newydd yn Awstralia

Mynd i deithio ar fy mhen fy hun yw'r penderfyniad gorau dwi wedi ei 'neud. Gwnaeth pob rhan o'r daith i mi deimlo'n bwerus, yn rhydd ac yn gyflawn, ac â ffydd gyfan gwbl yn fy ngallu fy hun.

'Nes i allu herio fy hun, fel gwneud naid bynji, a datblygu sgiliau newydd fel gwneud cymhwyster deifio a dysgu sut i wehyddu to Fijiaidd. Dwi wedi gwneud ffrindiau gyda phobl anhygoel ar draw y byd, ac ers dod yn ôl adre' wedi cael llawer o aduniadau.

'Falle fod hyn yn swnio'n cliché - 'nes i dreulio deg mis yn crwydro, chwilota, mynd ar goll, ond ar yr un pryd, dod i 'nabod fy hun yn gyfan gwbl a gweithio mas beth o'n i mo'yn o'r dyfodol. Ac os nad yw hynny'n reswm digon da i fwcio ffleit a phacio bagiau, dwi ddim yn siŵr beth sydd!

Ffynhonnell y llun, Lucie Blackman Trust
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Grace Millane ei llofruddio yn Auckland, Seland Newydd ar 1 Rhagfyr

I'r rheiny sydd wedi darllen am lofruddiaeth Grace Millane, ac wedi dod yn fwy amheus o deithio eich hunain, plîs peidiwch â bod.

'Swn i'n eich cynghori i gadw mewn cysylltiad, unai gyda theulu neu ffrindie adre' neu'r ffrindie rydych chi wedi eu gwneud ar y daith. Soniwch am y cynlluniau anhygoel sydd gennych chi dros y dyddiau nesa', ble rydych chi'n bwriadu mynd, am pa mor hi a gyda phwy.

Un peth arall roedd Dad yn ei fwynhau oedd mod i'n medru rhannu fy lleoliad gyda fe ar fy ffôn, fel ei fod e'n gallu gweld lle o'n i (licio busnesu o'dd e!). Er fod hyn yn swnio'n eithafol, o'dd e'n golygu ei fod e'n gallu anfon tecst yn gofyn i mi sut oedd y Tŷ Opera yn Sydney neu holi os o'n i wedi mwynhau syrffio ar draeth yn Bali.

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lisa brofiadau gwych, fel gwirfoddoli yn Fiji

Beth sydd wedi effeithio arnaf fi fwyaf am lofruddiaeth Grace Millane yw - nid yr ofn o deithio fy hun - ond yr honiadau na ddylai Grace fod wedi bod yn deithwraig ar ei phen ei hun.

Nid Grace yn teithio ar ei phen ei hun achosodd ei marwolaeth. Beth achosodd ei marwolaeth oedd dyn 26 oed a deimlodd fod ganddo'r hawl i gipio bywyd Grace oddi arni. I gipio'i gobeithion a'i breuddwydion. I gipio'r holl atgofion y byddai wedi eu creu, y ffrindiau y byddai wedi cwrdd â nhw, a'r eiliadau hynny pan y byddai wedi sefyll yn gwbl syfrdan wrth sylweddoli pa mor anhygoel yw ein byd o'n cwmpas.

Os unrhyw beth, byddwn i'n annog teithwyr benywaidd i bendant fynd ar eu pen eu hunain, i afael ar y cyfle am antur â dwy law ac i wneud hynny'n ddewr.

Mae llofruddiaeth Grace Millane yn drasiedi ac wedi torri fy nghalon, ond mae hefyd wedi fy ysbrydoli i fynd i ffwrdd ar fy mhen fy hun eto i brofi fod merched, beth bynnag eu hoedran, yn gallu teithio ar eu pen eu hunain, ac y dylan nhw allu gwneud hynny heb ofni marwolaeth neu drais.

Ffynhonnell y llun, Lisa Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cymryd hoe ar gwch yn harddwch y Pilipinau

Hefyd o ddiddordeb...