Gŵr o Sir Benfro yn gwerthu un o Ynysoedd y Falklands

  • Cyhoeddwyd
Pengwiniaid ar yr ynysFfynhonnell y llun, Llun teuluol
Disgrifiad o’r llun,

Mae pum math gwahanol o bengwin yn byw ar Ynys Pebble

Mae un o ynysoedd y Falklands wedi cael ei rhoi ar werth gan ei pherchennog - Cymro o Sir Benfro.

Mae Ynys Pebble wedi bod ym meddiant teulu Sam Harris - gor-or-ŵyr y perchennog cyntaf - ers 150 mlynedd, ond mae e bellach wedi penderfynu ei rhoi ar y farchnad.

Mae'r ynys anghysbell yn gartref i bum math o bengwin, 42 rhywogaeth o adar, morlewod, 6,000 o ddefaid a 125 o wartheg.

"Mae'n le anhygoel," meddai Mr Harris.

"Yn anffodus mae rheoli'r ynys wedi mynd yn rhy anodd."

Dros y blynyddoedd mae'r teulu wedi gwerthu ynysoedd eraill yn y Falklands, ond Ynys Pebble yw'r olaf yn eu meddiant.

Nid oes neb o'r teulu wedi byw yno ers y 1950au, a bellach mae'r ynys yn cael ei rheoli o'r DU gan fam Mr Harris.

Ffynhonnell y llun, Llun teuluol
Disgrifiad o’r llun,

Sam Harris a'i deulu ar yr ynys

Daeth yr ynys i feddiant y teulu yn 1869, pan gafodd ei phrynu gan John Markham Dean, hen hen dad-cu Mr Harris, am £400. Roedd e wedi mynd i'r ynysoedd anghysbell yn ne Môr Iwerydd er mwyn sefydlu cwmni achub llongau.

"Mae pawb o'r teulu wedi cael cyfle i fynd yno," meddai Mr Harris.

"Mae'r holl wyrion a'r wyresau i gyd wedi bod yno efo'u gwŷr a'u gwragedd a'u plant.

"Aeth Lowri fy ngwraig, a minnau yno yn 2011 ac roeddem yn teimlo agosatrwydd at y lle. Fe siaradon ni am fyw yno a chymryd drosodd ochr lletygarwch yr ynys, ond roedd hynny ynghanol y cyfnod pan oeddan ni'n dechrau magu teulu.

"Roedd yn benderfyniad anodd, ond nid yw fy rhieni mewn sefyllfa i barhau i reoli'r ynys.

"Mae'n mynd i fod yn anodd iawn dweud ffarwel wrthi."

Ffynhonnell y llun, Llun teuluol
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o arfordir garw'r ynys

Ffeithiau

  • Ynys Pebble yw'r drydedd ynys fwyaf yn y Falklands.

  • Mae'n 20 milltir o hyd a phedair milltir o led

  • Mae ganddi fynyddoedd a llynnoedd

  • Glaniodd yr SAS yno ar ddechrau Rhyfel y Falklands yn 1982 i ddinistrio rhai o awyrennau'r Archentwyr

  • Mae'r ynys yn cynhyrchu gwlân, sy'n cael ei allforio i Brydain

Ffynhonnell y llun, Llun teuluol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynys Pebble yn un o ynysoedd mwyaf y Falklands

Yn ôl Mr Harris nid oes gan y teulu bris mewn golwg, ond byddai'n well ganddynt pe bai gan y prynwr gefndir ym myd amaeth.

"Rydym yn awyddus i weld yr ynys yn cael ei datblygu, ac i'w gweld yn mynd i rywun fydd wir yn gofalu amdani," meddai.

"Mae ganddi botensial twristiaeth achos mae gan y fyddin safle mawr yna, ond mae 'na lawer o anifeiliaid yno, ac mae angen edrych ar eu holau.

"Mae'r ynys yn cynhyrchu llawer o wlân, sy'n mynd i'r DU, felly mae angen i'r prynwr gymryd hynny ymlaen.

"Fe aethom i weld asiant i gael ei phrisio hi ond fe fethon nhw â rhoi pris i ni am ei bod hi wedi bod yn eiddo i'r teulu ers cyhyd. Doedd dim prisiau diweddar y gallwn eu cymharu, felly rydym yn agored i gynigion."

Ffynhonnell y llun, Family photo