Dedfrydu dyn i 25 mlynedd dan glo am gam-drin plant

  • Cyhoeddwyd
Vincent SlaterFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr fod Vincent Slater yn "fygythiad i gymdeithas"

Mae dyn 57 oed o Abertawe wedi cael ei ddedfrydu i 25 mlynedd o garchar ar ôl pledio'n euog i gam-drin tri o blant yn rhywiol.

Daeth troseddau Vincent Slater i'r amlwg pan aeth un o'r dioddefwyr at yr heddlu fis Ionawr eleni yn honni bod y cyn-yrrwr tacsi wedi ei gam-drin tua 11 mlynedd yn ôl.

Roedd y diffynnydd wedi gwadu 19 o gyhuddiadau yn wreiddiol, gan gynnwys rhai o dreisio ac ymosodiadau rhyw, ond fe newidiodd ei ble ar y diwrnod roedd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Abertawe i fod i ddechrau.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Paul Thomas fod Mr Slater yn fygythiad i gymdeithas, ac y bydd ei droseddau'n effeithio ar y dioddefwyr gydol eu bywydau.

Clywodd y llys bod Slater wedi dod yn ffrindiau gyda'r achwynydd cyntaf, sy'n oedolyn erbyn hyn, gan ei hudo drwy brynu sigaréts iddo a gadael iddo dreulio amser yn ei dacsi.

Cafodd y bachgen ei gam-drin nifer o weithiau ac fe wnaeth y gamdriniaeth ddwysáu nes iddo gael ei dreisio.

'Manteisio ar ddiniweidrwydd'

Aeth dwy ferch at yr heddlu gyda honiadau pellach wedi i Slater gael ei arestio.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi rhoi arian i un o'r merched ar un achlysur yn dilyn ymosodiad rhyw er mwyn ei chadw'n dawel.

Mae'r heddlu wedi canmol dewrder y dioddefwyr am roi'r dystiolaeth i ddod â'r diffynnydd o flaen y llys.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jacquetta Jones o Heddlu De Cymru fod Slater wedi ymosod ar blant "ddylai fod wedi gallu ymddiried ynddo, ond yn hytrach fe fanteisiodd ar eu diniweidrwydd a'u sefyllfa fregus i ddiwallu ei anghenion llygredig ei hun".

"Efallai eu bod bellach yn oedolion eu hunain ond bydd gweithredoedd Slater yn cael effaith barhaus arnyn nhw," meddai.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Anthony Evans ei fod yn gobeithio y bydd yr achos "yn rhoi'r hyder i eraill allai fod yn dioddef yn dawel" i gysylltu â'r heddlu os ydyn nhw wedi cael eu cam-drin "waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd".