Cymru i chwarae yn Wrecsam am y tro cyntaf mewn degawd

  • Cyhoeddwyd
cymru'n ymarfer ar y Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru gynnal sesiwn ymarfer ar y Cae Ras yn gynharach eleni

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru'n chwarae yn y gogledd am y tro cyntaf mewn dros ddegawd pan fyddan nhw'n mynd yno am gêm gyfeillgar fis Mawrth.

Bydd carfan Ryan Giggs yn herio Trinidad a Tobago ar y Cae Ras yn Wrecsam ar 20 Mawrth, bedwar diwrnod cyn gêm ragbrofol yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd.

Y tro diwethaf i'r tîm cyntaf chwarae ar y Cae Ras oedd yn 2008, pan wnaethon nhw drechu Norwy o 3-0 mewn gêm gyfeillgar.

Yn gynharach eleni fe wnaeth y garfan gynnal sesiwn ymarfer agored ar faes CPD Wrecsam, gan roi cyfle i gefnogwyr yn y gogledd fynd yno i'w gwylio.

'Prawf diddorol'

Yr ornest ym mis Mawrth fydd yr ail waith yn unig i Gymru herio Trinidad a Tobago, yn dilyn gêm gyfeillgar rhwng y ddau yn 2006.

Rheolwr presennol y wlad o ynysoedd y Caribî yw cyn-amddiffynnwr Wrecsam, Dennis Lawrence.

"Dwi'n falch iawn ein bod yn gallu chwarae yn y Cae Ras am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd," meddai Giggs.

"Roedd y gefnogaeth yn anhygoel yn ystod y sesiwn hyfforddi agored yno ym mis Mai, gan danio ein dyhead i chwarae gêm lawn eto ar y cae hanesyddol.

"Bydd Trinidad a Tobago yn brawf diddorol i ni ac yn gyfle grêt i baratoi cyn ein hymgyrch ragbrofol Euro 2020."