Cymru'n darganfod eu gwrthwynebwyr i gyrraedd Ewro 2020
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn chwarae yng ngrŵp E yng ngemau rhagbrofol Euro 2020 ac fe fydden nhw'n wynebu Croatia, Slofacia, Hwngari ac Azerbaijan.
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer grwpiau rhagbrofol Euro 2020 mewn digwyddiad yn Nulyn fore Sul.
Yr her fwyaf i Gymru fydd wynebu Croatia, tîm a wnaeth gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd 2018.
Bydd Slofacia yn dwyn atgofion melys i gefnogwyr Cymru ar ôl i dîm Chris Coleman eu curo nhw o 2-1 yn eu gêm gyntaf yn Euro 2016.
Fe sgoriodd Gareth Bale a Hal Robson-Kanu i selio buddugoliaeth hanesyddol i Gymru yn Bordeaux.
Bydd y gemau rhagbrofol yn cael eu cynnal dros gyfnod o wyth mis rhwng Mawrth a Thachwedd 2019, gyda'r gemau ail gyfle wedyn ym Mawrth 2020.
Bydd rhestr y gemau yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach brynhawn Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018