Llysoedd yn cosbi merched 'yn hytrach na cheisio deall'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes gafodd ei charcharu am ddwy flynedd am esgeuluso ei phlant yn dweud na fyddai'r sefyllfa wedi mynd allan o reolaeth pe bai hi wedi derbyn y gefnogaeth iechyd meddwl angenrheidiol.
Llynedd cafodd ei chartref ei archwilio, a darganfuwyd bod sbwriel a baw cathod a llygod ar hyd y tŷ, yn ogystal â diffyg dŵr poeth a gwres canolog.
Ym mis Mawrth cafodd y ddedfryd ei gohirio gan y Llys Apêl, ond erbyn hynny roedd hi eisoes wedi treulio 11 wythnos dan glo ac wedi colli ei thŷ cyngor.
"Dwi 'di colli popeth, collais i fy nhŷ, fy eiddo, dwi 'di hunan niweidio er mwyn ceisio peidio teimlo dim," meddai Louise, sy'n enw ffug er mwyn amddiffyn ei phlant.
"Dwi'n derbyn cymorth bellach, ond fyswn i wedi derbyn hynny pedair blynedd 'nôl fyddwn i byth wedi ffeindio'n hun yn y sefyllfa yna."
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder "am weld llai o fenywod yn wynebu dedfrydau byr o garchar" ac yn gweithio tuag at gynnig mwy o gefnogaeth yn y gymuned.
Ychwanegodd Louise: "Dwi'n cyfaddef, mi oeddwn i'n byw fel yna ac roedd e'n ofnadwy, ond wnes i hefyd sortio fy hun allan er mwyn gwneud rhywle yn ddiogel, yn hapus ac yn lân ar gyfer fy mhlant."
Roedd y fam o dde Cymru wedi dioddef o iselder am flynyddoedd, ond ar ôl i berthynas dreisgar ddod i ben roedd hi'n teimlo wedi'u hynysu, yn methu ymdopi ar ei phen ei hun ac o ganlyniad fe ddirywiodd ei hiechyd meddwl.
"Roeddwn i'n gwybod nad oedden nhw'n [y plant] gallu parhau i fyw fel yma, ond doeddwn i'n methu tynnu fy hun allan o'r sefyllfa er mwyn datrys y problemau," meddai.
"Mae hynny yn dal i frifo nawr, y ffaith nad oeddwn i'n gallu gwneud hynny. Mae gen i gywilydd mawr am hynny."
Troseddau merched yng Nghymru
Ar gyfartaledd, 248 menyw o Gymru sydd yn y carchar ar un adeg.
Yn ystod 2016, cafodd 623 menyw eu dedfrydu i gyfnod yn y carchar yng Nghymru.
Rhwng 2011 a 2016 roedd cynnydd o 18% yn nifer y menywod gafodd eu dedfrydu i gyfnod yn y carchar.
Yn 2017, roedd 83% o fenywod oedd yn mynd i'r carchar ar hyd Cymru a Lloegr wedi cyflawni troseddau di-drais, o'i gymharu â 69% o ddynion.
Y drosedd fwyaf cyffredin ymysg menywod o Gymru oedd dwyn.
Yn 2007, fe awgrymodd adroddiad Corston y dylai llefydd mewn carchardai gael eu cadw ar gyfer y menywod mwyaf peryglus, ond mae mwyafrif menywod Cymru yn dal i gael eu carcharu am droseddau di-drais.
Mae galwadau cynyddol am sicrwydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod am ariannu o leiaf un canolfan fenywod newydd yng Nghymru, er mwyn cynnig mwy o opsiynau dedfrydu i'r llysoedd.
'Cosbi yn lle deall'
Yn ôl yr Athro Kate Williams o Adran Troseddeg Prifysgol De Cymru, mae angen gwneud barnwyr yn fwy ymwybodol o anghenion menywod sydd yn y system gyfiawnder troseddol.
"Mae cosbau menywod yn dueddol o fod yn rhy llym, mae nifer o'r problemau sy'n arwain at droseddu yn dechrau o ganlyniad i'r amgylchiadau maen rhaid iddyn nhw eu hwynebu, ond yn methu delio â nhw - ac rydyn ni'n eu cosbi nhw am hynny yn hytrach na cheisio eu deall.
"Nid yw cosbi am arwain at yr hyn rydyn ni wir ei angen - sef sicrhau na fydd y menywod yn troseddu yn y dyfodol, eu bod nhw am fod yn aelodau cadarnhaol o gymdeithas a gobeithio yn esiamplau da i'w plant."
'Symud y ffocws'
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym am weld llai o fenywod yn wynebu dedfrydau byr o garchar, gan fod tystiolaeth i ddangos bod eu rhoi yn y carchar yn gwneud mwy o niwed na lles i'r gymdeithas, ac yn methu torri'r cylch dieflig o ail-droseddu ac yn aml, gwaethygu sefyllfa deuluol digon anodd.
"Yn hytrach, rydym yn symud y ffocws i gynorthwyo'r menywod yn y gymuned, lle allant gael mynediad at ystod ehangach o gefnogaeth, er enghraifft rhoi cymorth i ddelio gyda phroblemau gyda chyffuriau ac alcohol a phroblemau iechyd meddwl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd20 Awst 2018