37% o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Carchardai

Mae 37% o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr, yn ôl adroddiad newydd.

Mae gwaith ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dangos lle mae'r holl garcharorion o Gymru yn cael eu dal, a pha awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gartref iddynt.

Ond mae'r data hefyd yn dangos bod carcharorion o Gymru wedi'u gwasgaru ar draws 104 o garchardai yn Lloegr, a bod 91% o garchardai Lloegr yn cynnwys carcharorion o Gymru.

Dywedodd Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod yr adroddiad yn helpu'r rhai sy'n gyfrifol am garcharorion a'r rhai sy'n gadael y carchar ledled Cymru i dargedu a darparu gwell gwasanaethau.

Ar hyn o bryd mae cyfanswm o 4,704 o garcharorion o Gymru, sydd wedi'u lledaenu ar draws 110 o wahanol garchardai yng Nghymru a Lloegr.

Rhai o ganfyddiadau'r data:

  • Roedd 37% o'r holl garcharorion o Gymru wedi'u gwasgaru ar draws 104 o garchardai yn Lloegr;

  • Roedd carcharorion o Gymru mewn 91% o garchardai yn Lloegr (104 o 116);

  • Roedd 261 o fenywod o Gymru mewn carchar ar ddiwedd Mehefin 2018. Roedd menywod o Gymru ym mhob un o'r 12 carchar i fenywod yn Lloegr;

  • Roedd gan 30% o'r holl garcharorion yng Nghymru ym mis Mehefin 2018 gyfeiriad yn Lloegr cyn mynd i'r ddalfa.

Yr adroddiad diweddaraf, 'Imprisonment in Wales: A Breakdown by Local Authority', yw'r ail ran o brosiect ymchwil dwy flynedd sy'n archwilio trefniadaeth a gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru.

'Mater cymhleth ond pwysig'

"Drwy gyhoeddi'r wybodaeth hon yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, rydym ni'n gobeithio y bydd yn helpu'r rheiny sy'n gyfrifol am garcharorion a'r rhai sy'n gadael y carchar ledled Cymru i dargedu a darparu gwell gwasanaethau," meddai Dr Jones.

"Mae'n rhaid i ni gydnabod bod lleoliad carcharorion yn fater cymhleth ond pwysig, nad yw wedi'i graffu arno na'i archwilio yn llawn.

"Fel y dadleuwyd yn ddiweddar gan Brif Arolygydd Carchardai ei Mawrhydi, mae gwasgariad a phellter o'r cartref yn faes sydd angen talu sylw pellach iddo os ydym ni am weld gwell canlyniadau."

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y wybodaeth yn cyfrannu at drafodaethau pellach am garcharu a'r system gyfiawnder yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones yn galw am sefydlu uned i ferched yng ngharchar Y Berwyn yn Wrecsam

Wrth ymateb i gasgliadau'r adroddiad ar raglen Post Cyntaf, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones fod "llawer gormod o garcharorion o Gymru yn treulio eu hamser mewn carchardai yn Lloegr yn bell iawn oddi wrth eu cartrefi".

Dywedodd fod 250 o garcharorion o ogledd Cymru'n treulio'u dedfrydau yng ngharchar Y Berwyn yn Wrecsam, ond bod "dwywaith cymaint â hynny" yn dal yn mynd i garchar Altcourse yn Lerpwl.

"'Dwi'n dymuno gweld tipyn mwy o'r carcharorion sy'n mynd i Altcourse Lerpwl yn mynd i garchar Berwyn Wrecsam," meddai.

"Hefyd mi ddylia nhw agor uned ar gyfer merched yn Berwyn yn hytrach na'u bod yn gorfod mynd i Loegr."

Ychwanegodd fod y sefyllfa bresennol yn "anochel... gan bod 'na ddim carchar i ferched yng Nghymru a does 'na ddim carchar Categori A chwaith".