Uchafbwyntiau chwaraeon 2018
- Cyhoeddwyd
Mae'n siŵr am y tro cyntaf ers blynyddoedd bod dewis yr uchafbwynt mwyaf ym maes chwaraeon Cymru eleni yn un hawdd...
Ie dyna chi, Laura Deas yn ennill medal efydd drwy fynd lawr mynydd ar sled maint hambwrdd yn Ngemau Olympaidd y Gaeaf ym mis Chwefror - y Gymraes gyntaf i ennill medal yn y gemau erioed.
O'r gorau, efallai bod rhai ohonoch chi'n anghytuno, ond mater o farn yw pob dim ynte, a bydd ambell i wyneb cyfarwydd yn ymuno â Catrin Heledd i rannu eu hatgofion chwaraeon o'r flwyddyn a fu, nos Sul 30 Rhagfyr am 21:00 ar S4C.
Bydd enwau mawr gan gynnwys Nigel Owens, Sarra Elgan, DJ Bry, Ryan Giggs, Non Stanford, Owain Tudur Jones a Nic Parry yn rhannu eu hatgofion, ond gadewch i ni fwrw golwg cyflym ar rai o'r uchafbwyntiau amlwg bydd efallai'n ymddangos ar y rhaglen:
Geraint Thomas yn ennill y Tour de France
Ar ôl seiclo 3,351km (2,082 milltir) o gwmpas Ffrainc ar gyflymder cyfartalog o 25 milltir yr awr, llwyddodd Geraint Thomas i fod y Cymro cyntaf i ennill y ras.
Mae'r gamp yn fwy trawiadol pan gofiwch chi iddo orfod adael y ras llynedd ar ôl torri pont ei ysgwydd, a doedd neb ar gychwyn y ras yn disgwyl iddo fod yn un o'r ceffylau blaen hyd yn oed.
Yn ffodus, wnaeth neb gofio dweud wrth Geraint!
Mark Williams yn ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd
Ym mis Mai llwyddodd y chwaraewr snwcer o Lyn Ebwy i ennill y bencampwriaeth yn Sheffield, bymtheg mlynedd ar ôl iddo lwyddo i wneud o'r blaen, ac am y trydydd tro yn ei yrfa
Roedd hyn yn dipyn o gamp gan iddo ystyried yn ofalus rhoi'r gorau i'r gamp y flwyddyn cynt wedi iddo fethu ennill lle yn y rowndiau terfynol.
Dweud y gwir, roedd e mor sicr bod e'n mynd i fethu, addawodd wneud y gynhadledd i'r wasg ar gyfer y buddugwr yn noeth os mai ef oedd yn llwyddo.
Mi wnaeth, ac mi wnaeth...
Llwyddiant Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad
Eleni yn haul yr Arfordir Aur, Awstralia cafodd tîm Cymru'r gemau mwyaf llwyddiannus erioed gyda chyfanswm o 36 o fedalau a 10 o rheini'n fedalau aur.
Yn anffodus, yr hyn mae pawb yn ei gofio yw'r crysau 'Hawaiiaidd' yn y seremoni agoriadol!
Tîm rygbi Cymru'n curo Awstralia - a De Affrica
Fis Tachwedd llwyddodd tîm rygbi Cymru i ennill gêm yn erbyn tîm o safon o hemisffer y de. Ar ôl ambell i gêm agos yn ystod y blynyddoedd diweddar, agos oedd hi eto, ond y tro yma Cymru oedd ar y blaen adeg y chwiban olaf o naw pwynt i chwech.
Llwyddodd y tîm i gadw record 100% yng nghyfres yr Hydref, am y tro cyntaf erioed gan guro'r Alban, Tonga a gorffen yn hynod o gryf gyda buddugoliaeth yn erbyn tîm arall o hemisffer y de, sef De Affrica.
Chi'n gwybod beth maen nhw'n ei ddweud... 'sdim dau heb dri!
Caerdydd yn mynd lan - ac Abertawe'n mynd lawr
Roedd gêm gyfartal, ddi-sgôr yn erbyn Reading yn ddigon i sicrhau byddai tîm Caerdydd yn codi i'r Uwchgynghrair. Buddugoliaeth fyddai'n teimlo hyd yn oed yn well pan syrthiodd eu hen elynion, Abertawe nôl lawr i'r Bencampwriaeth.
Ond dyna fe, mae'n siŵr bod dilynwyr Caerdydd wedi crio deigryn fach dros yr Elyrch, a dilynwyr Abertawe'n dymuno'n dda i'r Adar Gleision y flwyddyn nesaf... o bosib!
Hefyd ar Cymru Fyw: