Disgyblion 'wedi'u bygwth' yn Ysgol Penglais Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Penglais

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i adroddiadau bod dau fachgen 15 oed wedi bygwth disgyblion yn Ysgol Penglais yn Aberystwyth.

Mae BBC Cymru yn deall bod y bygythiadau honedig wedi'u gwneud yr wythnos ddiwethaf, a'u bod yn ymwneud â dod â gynnau neu gyllyll i'r ysgol ar ddiwrnod ola'r tymor.

Mae'r honiadau hefyd yn cynnwys bod y ddau fachgen wedi bygwth lladd disgyblion ac athrawon.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi chwilio cartrefi'r ddau ac nad oedd unrhyw arfau wedi eu darganfod.

Ychwanegodd llefarydd nad oes unrhyw un wedi cael eu harestio, a bod y llu wedi trefnu i gyfweld y ddau fachgen.

Mae rhai rhieni wedi rhoi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod wedi cadw eu plant o'r ysgol oherwydd y bygythiadau honedig.

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

Dywedodd Cyngor Ceredigion mewn datganiad: "Mae Ysgol Penglais yn ymwybodol o'r pryderon diogelu sydd wedi codi gan ddisgyblion ynglŷn â sylwadau am ddigwyddiad arfaethedig honedig.

"Mae diogelwch a lles pawb yn yr ysgol yn flaenoriaeth.

"Mae'r ysgol wedi bod, a dal i weithio ochr yn ochr â'r cyngor sir a Heddlu Dyfed-Powys.

"Mae staff, disgyblion a rhieni yn cael eu sicrhau bod yr holl fesurau diogelu priodol wedi eu cymryd i negyddu'r risgiau ac felly nid oes bygythiad i ddiogelwch pobl.

"Mae disgyblion neu rieni sydd â phryderon yn medru cysylltu gyda'r ysgol i drafod ymhellach."