Prifysgol Abertawe yn anrhydeddu'r diddanwr Dewi Pws

  • Cyhoeddwyd
Dewi PwsFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dewi-n doeth: Fe dderbyniodd Dewi Pws ddoethur mewn llên er anrhydedd

Mae'r canwr a'r actor Dewi Pws Morris wedi derbyn gradd anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

Cafodd ei wneud yn ddoethur mewn llên er anrhydedd yn seremoni raddio'r brifysgol ddydd Mawrth.

Yn enedigol o bentref Treboeth ger Abertawe, cafodd ei enwi'n Dewi Gray Morris.

Er iddo gymhwyso fel athro, a dysgu'n ardal Sblot yng Nghaerdydd am rai blynyddoedd, fe wnaeth enw iddo'i hun yn y byd adloniant.

"Mae'n hyfryd i ddychwelyd i'r ddinas lle ges i fy ngeni i dderbyn yr anrhydedd hollol annisgwyl hon - a 'sdim rhaid i fi ddysgu sgript!" meddai.

"Yma yn Abertawe ges i fy addysg gynnar lle ddysgais fod Cymru a'r iaith Gymraeg yn bwysig i mi, a hefyd sut i adeiladu cestyll tywod gore'r byd."

Bu'n actio mewn nifer o gynyrchiadau gan gynnwys cyfresi sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, yn ogystal â'r ffilm deledu eiconig Grand Slam ym 1978.

Roedd yn aelod o'r grŵp Tebot Piws, ac yn ddiweddarach, ymunodd â'r band roc chwyldroadol, Edward H Dafis.

Yn fardd hefyd, cafodd ei enwi yn Fardd Plant Cymru yn 2010.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood