Ffilm 'Grand Slam' yn 40 oed: Cast yn hel atgofion
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffilm eiconig 'Grand Slam' yn dathlu 40 mlwyddiant eleni. Mae'n olrhain hanes criw o gefnogwyr rygbi Cymru yn dilyn y tîm cenedlaethol ar gyfer gêm dyngedfennol ym Mharis.
Fel mae'n digwydd, Ffrainc fydd gwrthwynebwyr olaf Cymru yn y gystadleuaeth eleni - a hynny ar union ddyddiad y garreg filltir ar 17 Mawrth - ond bydd dim Camp Lawn yn y fantol i Gymru'r tro hwn.
Bu Cymru Fyw yn hel atgofion gyda rhai aelodau o'r cast.
'Pawb yn gobeithio cael rhan'
"Gwelodd [y cyfarwyddwr] John Hefin fi yn Pobol y Cwm ac fe ofynnodd e i mi os fyswn i'n hoffi rhan mewn ffilm gomedi," meddai Dewi Pws.
"Nes i ffeindio mas bod Huw Griffith a Windsor Davies ynddi ac o'n i'n meddwl 'wow, mae hon yn mynd i fod dipyn bach yn wahanol'.
"Beth oedd yn neis oedd bod Gwenlyn [Parry] wedi gwneud sgerbwd sgript eithaf manwl yn Gymraeg, ac wedyn cafodd ei drosi i'r Saesneg.
"Doedd 'na ddim stress o gwbl o weithio gyda John Hefin, roedd e'n gadael chi ad libio, yn enwedig lot o linellau gyda Sion Probert.
"Ar un adeg dyma John jest yn rhoi ni mewn tacsi ar gyfer golygfa a hala Sion (Probert), Windsor (Davies) a fi off gan fod 'na ddim lle iddo fe a dweud: 'Jest actiwch, gwnewch leins lan'."
Mae Mici Plwm hefyd yn cofio'r awch o fod yn rhan o brosiect mor gyffrous.
"Roedd pawb yn gobeithio 'sa nhw'n cael rhan ynddo fo," meddai.
"Be' sy'n rhyfeddol ydy bod 'na bron dim o budget iddo fo.
"Dwi'n siŵr os fysa fo wedi ei wneud gan y BBC yn Llundain fysa'r budget drwy'r to, ond 'sa fo'n gynhyrchiad mawr ac ella'n colli'r diniweidrwydd 'na."
Tanio matsis ar ben ôl Oscar
Roedd un o actorion mwyaf Cymru ar y pryd, y diweddar Hugh Griffith, hefyd yn rhan o'r ffilm - ond doedd cyd-weithio ag o ddim wastad yn hawdd.
"Roedd gweithio 'da fe'n wahanol," meddai Dewi Pws dan chwerthin.
"Os nad oedd e'n lico chi, oedd e'n gallu mynd yn gas iawn.
"Ond fel ma'n digwydd, am 'mod i'n siarad Cymraeg, o'dd e'n dod 'mlaen 'da fi. Roedd ganddo fe enw ar fy nghyfer i - bydde fe'n gweiddi 'lle mae'r bastad bach 'na rŵan?!'
"Dwi'n cofio fe'n troi lan i ffilmio am 06.30 a thynnu case mas, ac ynddo fe oedd bob math o ddiodydd - brandi, wisgi, mixers... 'Be' tisho i yfad ta?!'
"Aeth John Hefin lan i Lundain i gyfarfod Hugh. Roedd ganddo fe Rolls Royce gwyn, crand ac roedd e'n siarad Cymraeg fel y cymeriad Arabaidd roedd e'n chwarae yn Ben-Hur.
"Bob hyn a hyn oedd Hugh yn cynnig sigâr. Wedi'r drydedd sigâr sylwodd John Hefin bod Hugh yn defnyddio pen ôl ei Oscar er mwyn tanio'r matsis!"
Hefyd o ddiddordeb
Daeth chwaraewyr rygbi'r genedl i wybod am ei ffyrdd unwaith hefyd, meddai Dewi Pws.
"Roedden ni'n aros yn yr un gwesty â thîm rygbi Cymru ym Mharis, a dwi'n cofio'r noson wedi'r gêm [pan gollodd Cymru] ac roedd y garfan yn cael ambell ddiod ac roedd dipyn o sŵn.
"Yna, ar y minstrels' gallery lan llofft roedd 'na sŵn mawr - 'Bang! Bang! Bang!' - a dyna le oedd Hugh Griffith gyda'i ffon yn ei law yn galw am dawelwch.
"Aeth y lle'n dawel gyda phawb yn edrych ar Hugh, yna fe bwyntiodd ei ffon at y tîm a gweiddi 'Tossers!' - dyma fe'n troi rownd a cherdded mas gyda phawb yn chwerthin."
'Tristwch' am boblogrwydd y ffilm
Ar drothwy dathlu'r deugain felly, ydy Grand Slam wedi dyddio'n dda o edrych 'nôl?
"Mae pawb yn gallu uniaethu â'r cymeriadau ac yn gwybod am y math o hwyl sydd ar y tripiau 'na," meddai Dewi Pws.
"Mae e'n hen ffasiwn erbyn nawr ond dyw e heb golli ei hiwmor - mae'n onest iawn."
Roedd y ffilm yn un cyfoes ar y pryd, meddai Sharon Morgan: "Yn y 1960au daeth y bilsen ac offer atgenhedlu i fodolaeth a doedd bod yn hoyw bellach ddim yn anghyfreithlon.
"Felly roedd e'n mynegi'r ysbryd o'r rhyddid newydd o ran rhywioldeb, heb fod yn rhy risqué - roedd cynulleidfa Gymreig yn dal i deimlo'n eithaf saff ond eto bod y peth yn eithaf dewr ac yn torri rhyw waliau lawr.
"Dyna'r gyfrinach i ryw raddau, achos mae 'na anwyldeb a diniweidrwydd anhygoel ynglŷn â rhyw ac agweddau pawb ynddo fe, a lot fawr o hiwmor. Hefyd roedd e fel 'sa fe'n gwthio'r ffiniau ac yn parhau mor Gymreig.
"Mae'n rhyfeddol pa mor boblogaidd yw'r ffilm ac yn drist mewn ffordd ei fod dal yn boblogaidd, achos bydden i wedi gobeithio y byddai lot fawr o ffilmiau poblogaidd wedi dod mas o Gymru dros y blynyddoedd.
"Mae pobl dal i 'nabod fi weithie, er 'mod i mor hen bellach - 26 o'n i pan wnes i wneud e a fi bron yn 70 nawr!
"Mae rhai pobl yn gallu dyfynnu'r sgript gyfan - fi 'di hen anghofio fe bellach!"