Symud ymlaen ar ôl bod Rownd a Rownd am flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
meical a michelle

Cryn dipyn o syndod i ffans Rownd a Rownd oedd clywed bod dau o hoelion wyth y gyfres boblogaidd yn gadael. Nôl ym mis Gorffennaf ffarweliodd Meical a Michelle â'u bywydau ym mhentref Glanrafon gan symud i Gasnewydd am fywyd newydd.

I'r actorion, Emyr Gibson (Meical) a Manon Elis (Michelle) mae hi felly yn dipyn o newid byd ar ôl chwarae rhannau'r gŵr a gwraig cythryblus ers 1999.

Er nad oes llawer o amser ers i Meical a Michelle ddweud 'hwyl fawr' a diflannu oddi ar y sgrin fach, cafodd Emyr a Manon wybod nad oedd dyfodol i'w cymeriadau tua 18 mis yn ôl.

Digon o amser felly i gnoi cil ac ystyried pa gyfeiriad i fynd a pha gamau i'w cymryd. Mae'r ddau wedi bod drwy gyfnod digon ansicr wrth geisio meddwl beth i'w wneud nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Manon ac Emyr ar gyfres Rownd a Rownd yn 1999

"Pan gafon ni wybod bod Rownd a Rownd yn dod i ben, roedd bob math o bethau yn mynd trwy fy mhen i," meddai Manon Elis.

"Ydw i am adael fy mhlant wyth a phump oed yn y gogledd i fynd i chwilio am waith yn y de? Achos yn fan'no ma'r gwaith i gyd dyddiau yma. Neu ydw i'n gwireddu breuddwyd wrth drio dechrau busnes ac o leia' fel hyn dwi'n cael bod adra efo fy mhlant bach."

Dywedodd Emyr: "Achos bod ni wedi bod yn gweithio mor glos am gyfnod mor hir mae rhywun yn siarad am y pethau 'ma tydi."

'Eisiau cychwyn menter fy hun'

Mae'r actor a'r canwr yn byw yng Nghaernarfon gyda'i wraig Sarah a'u dau o blant, Eos a Casi.

"Oedd Manon wastad yn dweud ei bod hi eisiau cychwyn wbath vintage a rhyw fath o siop ac o'n innau hefyd eisiau cychwyn menter fy hun o ryw fath.

"Dwi wedi bod yn gweithio ar ambell i brosiect dros y blynyddoedd yn ogystal â'r canu a'r actio - ond o'n i eisiau mentro tro 'ma a chael fy nannedd i mewn i rwbath go iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Siop Manon yng nghanol tref Caernarfon

Dywedodd Manon: "Dwi'n caru bob dim vintage erioed, ma'r tŷ yn llawn o bethau tebyg. So fy menter newydd fydd gwerthu stwff vintage, gwaith celf, upcycle - cymysgedd o bethau hen, a rhoi bywyd newydd i hen bethau."

Croeso yng Nghaernarfon

Mae'r siop, dan yr enw Manon, wedi agor ers ychydig dros wythnos erbyn hyn ac wedi ei leoli ar Stryd y Plas yng Nghaernarfon.

"Dwi wedi cael y fath groeso ar y stryd 'ma - mae pawb yn gweithio fel tîm a jest mor gefnogol.

"Dwi wedi cael llwyth o gymorth a dwi mor ddiolchgar. Mae fy ngŵr go iawn i [yr actor Emlyn Gomer Roberts] a fy ngŵr cocsio fi [Meical] wedi bod yn helpu fi hefyd efo'r pethau mawr trwm!

"Mae o'n rhyfedd, rydan ni wedi gweithio yn agos iawn ers 17 o flynyddoedd, ista o gwmpas ar set am oriau ac yn cael y sgyrsiau 'ma am fentro - mae o jest yn neis rili bod y ddau ohonom ni'n mentro i gyfeiriadau newydd yr un pryd," ychwanegodd Manon.

Disgrifiad o’r llun,

Emyr yn cymryd gofal o'i offer peintio

Felly os ydy'r brwsus colur a'r brwsus o'u menter glanhau yng Nglanrafon yn segur am y tro, does 'na ddim stop am y brwsus paent!

Yr ochr arall i'r dŵr ar Ynys Môn, mae Emyr Gibson yn baent o'i gorun i'w sawdl yn cael trefn ar ddistyllfa newydd Afallon Môn ble y bydd o a'i bartner busnes, yr actor Owen Arwyn, yn cynhyrchu jin.

"Dwi dal isho actio a chanu - ond mi oeddwn i a fy ffrind yn actorion ac isho 'neud rwbath arall… y syniad oedd gan ein bod ni yn hoffi tipple y bysan ni'n mentro i fyd jin ac mi aethon ni i neud cwrs ar sut i ddistyllu yn Sunderland," meddai Emyr o'r ddistyllfa sydd ar fferm ger Llanfachraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid ymroi eich hunain i'r broses o gynhyrchu jin

"Mi fydd y jin cyntaf yn barod yn y Gwanwyn 2019. Mae hwn yn fwy o gambl na'r prosiectau dwi 'di 'neud yn y gorffennol efo'r gwaith trwyddedau, a'r offer.

"A mwya' sydyn rŵan mae jin 'di mynd yn boblogaidd iawn. 'Da ni'n gobeithio medrwn ni sefyll allan gan fod y ddau ohonom ni'n artistiaid so fydd 'na elfen fwy artistig i'r ddelwedd a'r marchnata, mae'r label wedi ei greu gan artist lleol hefyd.

"Branwen fydd enw ein jin cyntaf ni gan ein bod yn distyllu ddim yn bell o dref Branwen sef Llanddeusant. Mi fyddwn ni'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r ddistyllfa yn y dyfodol ac yn gobeithio ehangu ar y dewis drwy gynnig fodca a rym hefyd."

Troi a throi fydd y ddau brysur yma felly!

Hefyd o ddiddordeb: