Trysor yn y Grug - llythyr Kate Roberts mewn llyfr ail-law
- Cyhoeddwyd
Pan brynodd Iona Richards un o glasuron Kate Roberts mewn siop ail-law, fe gafodd fargen heb sylweddoli hynny. Oherwydd rhwng y tudalennau daeth o hyd i lythyr personol gan yr awdur.
Ac mae'r hyn wnaeth un o'n prif lenorion ysgrifennu yn y llythyr 59 mlynedd yn ôl yn ddigon difyr i'w ddarllen - heb sôn am y straeon yn y llyfr, Te yn y Grug.
Mae 'Brenhines Ein Llên' yn feirniadol o bobl ifanc diog ac yn sôn am y gwaith oedd o'i blaen i gasglu arian tuag at ysgol Gymraeg.
Fe wnaeth Iona Richards o Ddeiniolen, Gwynedd, y darganfyddiad pan oedd hi'n twrio drwy lyfrau mewn siop ail-law yng Nghaerfyrddin.
Cafodd y clasur Te yn y Grug ei ysgrifennu 60 mlynedd yn ôl ac mae'n cael ei addasu ar gyfer sioe arbennig i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Roedd Iona Richards yn dweud yr hanes ar raglen Dei Tomos, Radio Cymru, ddydd Sul, Ionawr 6.
"Dwi wastad yn edrych ar hen lyfrau pan fyddai'n mynd i siopau ail-law ac ro'n i'n gweld bod yna bapurau yn yr un yma - ac amlen," meddai.
"Nes i ddim edrych yn fanwl iawn ac roedd gen i ddiddordeb i edrych beth oedd y toriadau papurau newydd a phethau oedd ynddo ac felly nes i brynu fo."
Fe roddodd £5 am y llyfr ac aeth ati i edrych yn fwy manwl ar yr eitemau rhwng y tudalennau - yn cynnwys amlen wedi ei gyfeirio at Mr Glyn Ifans M.A., Caerfyrddin.
Roedd wedi ei ddyddio mis Mai 1960 - flwyddyn yn unig ar ôl cyhoeddi'r llyfr - ac roedd Kate Roberts wedi ei ysgrifennu yn Ninbych lle bu hi'n byw ac yn rhedeg Gwasg Gee gyda'i gŵr Morris Williams.
Mae Kate Roberts yn ysgrifennu:
"Pob llwyddiant i chi ar Faner yr Ifanc. Mae'n anodd cael yr ifanc i weithio heddiw. Dim ond un cwmni drama dan 15 sy'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn Nolgellau ac oherwydd hynny gofynnwyd inni roi'r anterliwt yno. Oed yr addewid yn gwneud gwaith yr ifanc."
Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i sôn am ei phrysurdeb gydag ysgol Gymraeg:
"... ar ôl ei chael, mae'r gwaith caled o godi arian ar ein gwar rwan ond beth a wnawn heb waith."
Roedd Iona Richards ar ben ei digon gyda'i darganfyddiad.
"Beth oedd y wefr i fi oedd ffeindio'r amlen a gweld y llythyr tu mewn a bod Kate Roberts ei hun wedi bod uwch ben hwn ac wedi ei 'sgwennu fo. O'n i'n reit excited."
Roedd yn awyddus i wybod mwy am gefndir y llythyr felly gofynnodd i berthynas yng Nghaerfyrddin ymchwilio ar ei rhan.
Gwaith ditectif
Fe gafwyd hyd i gyn-fyfyriwr yng ngholeg Caerfyrddin oedd yn cofio Mr Glyn Ifans yn darlithio iddo yn yr adran Gymraeg. Mae'n cofio iddo ymuno yn 1959 a'i fod wedi cyhoeddi Coron ar Fotwm, dyddiaduron o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Yn ôl e-bost gan y cyn-fyfyriwr:
"Byddai'n darlithio gramadeg Cymraeg i mi a chofiaf yn iawn, roedd yn cymryd pob enghraifft ramadegol yn y Gymraeg allan o'r Beibl. Dyna pryd y dysgais i sawl rhan allan o nifer o adnodau."
Ond nid Te yn y Grug oedd yr unig drysor i Iona Richards ddarganfod y diwrnod hwnnw yng Nghaerfyrddin.
Fe brynodd Straeon Wil gan JO Williams am £3. Roedd yr awdur - wnaeth ysgrifennu Llyfr Mawr y Plant - hefyd wedi ei arwyddo a'i gyflwyno "I Glyn". Mae Iona Richards yn meddwl mai'r un Glyn Ifans oedd hwnnw.
Ychwanegodd: "Roedd yna lyfrau eraill hefyd a dwi'n difaru peidio prynu nhw - rhai gan Islwyn Ffowc Elis a Marian Eames. Ella' fasa pethau diddorol yn rheiny hefyd."
Hefyd o ddiddordeb: