Teyrnged gan deulu dynes o Benarth fu farw ar drên
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes fu farw ar ôl taro ei phen wrth deithio ar drên wedi rhoi teyrnged i ferch, chwaer ac wyres "hyfryd".
Bu farw Bethan Roper, 28, wrth deithio o Gaerfaddon i dde Cymru ar 1 Rhagfyr ar ôl bod mewn marchnad Nadolig gyda ffrindiau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 22:10, ond bu farw Ms Roper yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth y DU bod ymchwiliad i'r farwolaeth yn cael ei gynnal ond nad yw'n cael ei drin fel digwyddiad amheus.
Roedd Ms Roper, o Benarth, yn gweithio i Gyngor Ffoaduriaid Cymru ac yn ymgyrchydd dros hawliau ceiswyr lloches.
Dywedodd ei thad, Adrian: "Roedd hi'n mwynhau bywyd i'r eithaf ac yn gweithio'n ddiflino er mwy'n gwella'r byd o'i chwmpas.
"Roedd pawb oedd yn adnabod Bethan yn hynod o ffodus... roedd hi'n hyfryd ymhob ffordd bosib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018