Trafod pryder am newid gwasanaeth i blant dall a byddar
- Cyhoeddwyd
Bydd pryderon ynghylch newidiadau i wasanaeth sy'n cefnogi plant dall a byddar yn cael eu trafod gan elusennau a Chyngor Casnewydd ddydd Iau.
Mae'r cyfarfod yn dilyn penderfyniad y cyngor i beidio â pharhau yn rhan o Wasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu Gwent (SenCom).
Fe allai'r penderfyniad hwnnw fod yn niweidiol i'r ddarpariaeth i'r plant dan sylw, yn ôl y corff Wales Vision Forum, sy'n cynnwys nifer o elusennau fel RNIB Cymru a Guide Dogs Cymru.
Ond mae'r cyngor yn dweud bod "dyfalu" o'r fath yn sgil bwriad i sefydlu gwasanaeth ar wahân yn "gamargraff".
Ychwanegodd llefarydd bod y cyngor "yn ymwybodol iawn fod cyfrifoldeb i ddarparu'r gwasanaethau gorau i gymunedau lleol".
Arbed £250,000 y flwyddyn
Ar hyn o bryd, mae SenCom yn cael ei ariannu ar y cyd gam bum cyngor yn ne ddwyrain Cymru - Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Mynwy a Thorfaen.
Mae'n cefnogi plant sydd â phroblemau golwg, clyw a chyfathrebu.
Trwy sefydlu ei uned ei hun, mae Cyngor Casnewydd yn dweud bod modd darparu gwasanaethau cystal â rhai SenCom ar gyfer tua 100 o blant yn fwy cost-effeithiol.
Mae'r cyngor yn gobeithio arbed £250,000 y flwyddyn.
Ond mae teuluoedd sy'n dibynnu ar wasanaeth SenCom wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn "gandryll gyda'r penderfyniad" a byddai unrhyw newidiadau yn "annioddefol".
Dywed y fforwm fod y drefn bresennol mewn bodolaeth am 35 o flynyddoedd ac yn esiampl dda o gydweithio rhanbarthol.
Mewn llythyr i'r cyngor, mae'r elusennau'n amlinellu ofnau y gallai newid arwain at "loteri côd post", gwasanaethau sy'n "llai abl i addasu i newidiadau yn y galw" ac arbenigedd yn cael ei golli o fewn y gweithlu.
Maen nhw hefyd yn beirniadu'r cyngor am wneud y penderfyniad "heb ymgynghoriad ffurfiol" ac yn dweud y byddai dod â'r cytundeb presennol i ben ar 1 Ebrill 2019 "yn cael effaith negyddol ar blant" sydd yng nghanol cyfnod pontio neu'n paratoi i sefyll arholiadau.
"Dymunwn i chi ailystyried amseriad y newid i'r gwasanaeth i leihau'r effaith ar blant a'i teuluoedd," medd y llythyr.
'Rhieni'n fodlon'
Dywed Cyngor Casnewydd eu bod yn "llwyr werthfawrogi" fanteision cydweithio gyda phartneriaid ond "yn yr achos hwn, wedi ystyriaeth helaeth, mae'n glir y gallen ni ddarparu gwasanaeth ar gyfer plant yng Nghasnewydd sy'n cyfateb i'r hyn sy'n cael ei ddarparu gan SenCom mewn ffordd fwy cost-effeithiol".
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi danfon dros 380 o lythyrau at rieni a gofalwyr yng nghanol mis Hydref yn amlinellu'r newidiadau ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau a chodi pryderon.
Dywedodd bod 10 o rieni wedi ymateb i drafod y gefnogaeth i'w plant, ac mai dim ond un o'r achosion hynny sydd eto i'w ddatrys.
Ychwanegodd: "O'r dystiolaeth yma... mae'n ymddangos bod y rhieni, yn gyffredinol, yn fodlon gyda'r cam."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018