Pryder am gefnogaeth i blant dall a byddar Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae pwysau ar Gyngor Casnewydd i wyrdroi'r penderfyniad i dynnu 'nôl o wasanaeth rhanbarthol sy'n cefnogi plant dall a byddar.
Ar hyn o bryd mae pum cyngor yn ne ddwyrain Cymru yn ariannu Gwasanaeth Cymorth Synhwyraidd a Chyfathrebu Gwent (SenCom) ar y cyd.
Dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod nhw'n hyderus y bydd eu tîm newydd gystal â SenCom ond yn fwy "cost-effeithiol".
Mae teuluoedd sy'n dibynnu ar wasanaeth SenCom wedi dweud wrth raglen Wales Live y BBC eu bod nhw'n "gandryll gyda'r penderfyniad".
Bwriad SenCom yw helpu plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg, eu clyw neu sydd â thrafferthion cyfathrebu.
Mae Cyngor Casnewydd yn cyfrannu £650,000 y flwyddyn i gyllideb SenCom o £2.3m.
Mae dogfennau a gyhoeddwyd ddydd Mercher yn dangos fod y cyngor yn gobeithio arbed £250,000 drwy dynnu'n ôl o'r cynllun.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cefnogi 380 o blant a phobl ifanc yng Nghasnewydd.
'Dadsefydlu'r holl wasanaeth'
Dywedodd Lynne Neagle, AC Llafur Torfaen, sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad, y byddai'n hoffi gweld y cyngor yn newid eu meddwl.
"Dwi'n meddwl byddai tynnu'n ôl yn gallu dadsefydlu'r gwasanaeth ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc sy'n ymwneud ag ef," meddai.
Yn ôl Cyngor Casnewydd maen nhw wedi ystyried lles yr unigolion gaiff eu heffeithio gan y newid yn ofalus.
Ychwanegodd llefarydd ar eu rhan: "Rydyn ni'n hyderus y gallwn ni ddarparu gwasanaeth ar gyfer plant Casnewydd sydd gystal â SenCom mewn modd mwy cost-effeithiol."
Fydd gwasanaeth y SenCom newydd ddim yn "wahanol iawn" ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy na Thorfaen, yn ôl llefarydd ar ran cyngor Torfaen.
"Nid oes disgwyl y bydd y model newydd angen cymaint o staff i'w weithredu" meddai.
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, wedi disgrifio SenCom fel "esiampl dda iawn" o gynghorau yn cydweithio er mwyn creu gwasanaeth arbenigol.
Mae Ms Williams wedi ysgrifennu at arweinydd Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox, yn gofyn am sicrwydd ynglŷn â'r cynllun newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018