Cyngor yn cytuno i ehangu addysg Gymraeg yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cynlluniau i ehangu addysg Gymraeg yn y sir a chodi adeiladau newydd ar gyfer dwy ysgol gynradd.
Bydd Ysgol Gymraeg Tan-y-Lan yn cael ei chodi yn ardal Clase a bydd adeilad newydd yn cael ei godi i gartrefu Ysgol Gymraeg Tirdeunaw - camau fyddai'n creu bron i 800 o lefydd i blant gael addysg cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd nesaf,
Ond mae'r cabinet hefyd yn argymell cau un o'r ysgolion lleiaf - Ysgol Felindre, sydd ag 14 o ddisgyblion ar y gofrestr - haf nesaf.
Bydd yna ymgynghoriad statudol ar y cynlluniau yn y flwyddyn newydd.
Bydd Ysgol Tan-y-Lan â lle ar gyfer 315 o blant, a fe fyddai'r ail adeilad newydd ger Ysgol Gyfun Bryn Tawe yn caniatáu i Ysgol Tirdeunaw dderbyn 420 o blant.
Ond roedd y cyngor wedi derbyn 90 o wrthwynebiadau i'r cynnig i gau Ysgol Felindre.
Dywedodd Helen Morgan-Rees, pennaeth cyrhaeddiad a phartneriaeth y cyngor, bod cau unrhyw ysgol "yn benderfyniad anodd" ond bydd yn caniatáu i blant elwa o well adeiladau a chyfleusterau, ac i'r cyngor ddarparu addysg Gymraeg "yn yr ardaloedd cywir".
"Ni ddim yn gallu plesio pawb," meddai, "ond yn sicr ma' 'na gyfle yn fan hyn i ni ddathlu, oherwydd yn draddodiadol dyw'r sector Gymraeg ddim wedi elwa o adeiladau newydd.
"Mae'n fraint bod y cyngor yn gallu dweud bod nhw wedi buddsoddi a blaenoriaethu prosiecte ar gyfer addysg Gymraeg mewn adeiladau newydd."
Ychwanegodd bod "addewid mewn egwyddor" gan Lywodraeth Cymru i gyfrannu arian at y cynlluniau a bydd trafodaethau'n parhau rhyngddyn nhw a'r cyngor yn y flwyddyn newydd.
'Galw ers blynyddoedd'
Yn ôl cadeirydd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn Abertawe, mae'n "newyddion da", er ei fod "tipyn yn hwyr" yn digwydd.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg yn Abertawe, bod y mudiad wedi "galw ers blynyddoedd lawer" am gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yr ardal.
"Tipyn yn hwyr mae hyn yn digwydd," meddai.
"O'n i'n gwbod bydde'r ysgol yn Nhreforys yn orlawn ers blynyddoedd. Ac mae wedi bod llawer gormod o blant yna 'na sydd o le."
Dywedodd Mr Gruffydd fod y galw am addysg Gymraeg yn amrywio ar hyd y ddinas.
"Beth y'n ni'n gweld nawr y lle mae 'na ysgolion Cymraeg, mae canran y plant fydd yn mynd i'r ysgol Gymraeg - hyd yn oed mewn ardal gwbl drefol yn Abertawe - yn gallu bod mor uchel â un o bob pedwar.
"Lle does dim ysgol Gymraeg, mae'r disgyblion sy'n mynd i'r ysgol Gymraeg yn gallu bod mor isel â 4%.
"Felly mae'r Gymraeg yn Abertawe yn y blynyddoedd i ddod yn mynd i ddibynnu'n llwyr ar fod ysgol Gymraeg ar gael yn hwylus."
Yn sgil y cynlluniau i adeiladu ysgolion newydd, mae dyfodol ysgol arall yn y fantol - Ysgol Craig Cefn Parc, sydd â 49 o ddisgyblion.
Ychwanegodd Mr Gruffudd bod sefyllfa Ysgol Felindre - lle mae dim ond pedwar o'r disgyblion yn lleol - "yn anodd"ac nad oedd yn gweld ffordd o'i datrys.
"Peth arall sy 'di digwydd i Felindre ac mae'n broblem ledled Cymru, yw mai dim ond un o bob tri sy'n siarad Cymraeg yn y pentre', gydag un o bob chwech wedi'i eni yn Lloegr, felly problem Felindre yn broblem ddemograffig, problem poblogaeth, problem newid iaith, ond hefyd diffyg plant bach."
Cam nesaf?
Yn ôl adroddiad gan Gyngor Abertawe, cododd swyddogion addysg "bryderon" bod yr ysgol yn cael trafferthion cefnogi'r nifer fechan o ddisgyblion sydd ganddynt.
Yn yr un adroddiad, nodwyd nad oedd adnoddau Ysgol Felindre nac Ysgol Craig Cefn Parc yn gweddu ar gyfer anghenion disgyblion.
Wedi penderfyniad y cabinet Abertawe ddydd Iau, bydd cyfnod o ymgynghori statudol, a bydd yna gyfle eto i bobl rannu eu barn rhwng Ionawr a Chwefror 2019.
Yn ôl y Cynghorydd Jennifer Raynor, sy'n aelod cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau: "Bydd aelodau cabinet yn craffu ar argymhellion yr adroddiad a'r holl ymatebion i'r ymgynghoriad cyn y cyfarfod, lle rwy'n siŵr y bydd 'na fwy o gwestiynau cyn bwrw ati i wneud unrhyw benderfyniad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018