'Mwy angen blogio i gadw iechyd meddwl iach'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes sydd â nam golwg yn galw am fwy o hwb i ysgrifennu blogiau a dyddiaduron wrth ymdrin ag iechyd meddwl.
Mae Elin Williams, 20 oed o Eglwys-bach, Sir Conwy, yn ysgrifennu blog sydd bellach â dros 8,000 o ddilynwyr.
Dechreuodd hi'r blog 'My Blurred World' yn 2015 fel ffordd i drafod ei theimladau a gofidiau.
Yn ei blog mae hi'n trafod testunau dwys fel unigrwydd a diffyg swyddi i bobl anabl ond hefyd pynciau ysgafn fel ffasiwn a cholur.
Yn ôl Elin mae'r broses o ysgrifennu a blogio'n gyhoeddus wedi rhoi "rhyddhad" iddi a nawr mae hi'n dweud y dylai rhagor o bobl gael eu hannog i wneud yr un fath er mwyn helpu eu hiechyd meddwl.
Profiad Elin
Mi wnes i ddechrau fy mlog yn 2015 a wnes i ddechrau oherwydd y teimlad o unigrwydd, ac roeddwn i eisiau rhoi fy nheimladau i gyd ar daflen ac roedd o'n dod lot haws a lot fwy naturiol i mi.
Wrth ddarllen blogiau pobl eraill nes i feddwl 'swni'n licio 'neud hynny a doedd 'na ddim llawer o bobl yn ysgrifennu am nam golwg - yn enwedig o bersbectif rywun sydd hefo anabledd.
Mi wnes i ddechrau fo oherwydd 'o ni'n dod ar draws mwy o gamsyniadau am bobl â nam golwg a thrio chwalu'r stigma.
Roeddwn i'n berson distaw ofnadwy felly doedd siarad am fy mhryderon ddim yn dod yn naturiol i mi.
Mae'n gallu bod yn broses unig. Y cyfnod mwyaf unig i mi oedd yn y chweched dosbarth pan doedd pobl ddim yn deall. Roeddwn i'n unig iawn.
Unwaith wnes i dderbyn yr anabledd a deall o, roeddwn i'n dechrau dod yn fwy agored amdano a wnes i ddechrau'r blog a rhoi fy nheimladau allan yna. Mae'n rhoi hwb.
Yn y blog dwi'n trafod colur a ffasiwn a sut mae gwneud nhw'n hygyrch iddyn nhw. Mae lot o bobl yn meddwl dydw i methu mwynhau colur ond 'dyw hynny ddim yn wir.
Dwi'n mwynhau colur a ffasiwn ers oeddwn i'n 14 oed a dydw i erioed wedi gadel i'r nam golwg stopio hynny.
Yn amlwg mae pawb yn wahanol ond dwi'n meddwl fod blogio'n gallu bod yn help mawr. Mae 'di dod yn fwyfwy boblogaidd ac yn helpu i ni siarad am ein problemau.
Unwaith gewch chi eich teimladau ar bapur, does ddim rhaid cyhoeddi nhw. Mae'r teimlad yna o ryddhad.
Yn ôl Elin mae'r broses o gyhoeddi ei theimladau a chael sylwadau gan eraill wedi magu ei hyder.
"Mae'r ffaith fy mod i'n cael sylwadau ar ôl cyhoeddi yn reit arbennig ac yn 'neud i mi deimlo fel nad ydw i ar fy mhen fy hun," meddai.
"Wnes i erioed feddwl y byddai rhywbeth 'nes i ysgrifennu yn gallu helpu pobl eraill ac uniaethu hefo. Mae'n rhyfedd ond yn deimlad da."
'Rhyddhad'
Un o'r pynciau mae Elin yn ei drafod yn ei blog yw prinder swyddi i bobl ddall.
"Roeddwn i'n lwcus i adael ysgol a chael swydd gyda'r RNIB ond dwi 'di bod yn ddi-waith ers blwyddyn bellach ac yn dal i chwilio am waith," meddai.
"Dwi'n meddwl bod y camsyniad 'ma fod pobl efo nam golwg yn costio mwy oherwydd offer rydym ei angen, ond mae 'na help."
Wrth drafod ei syniadau i gael rhagor o bobl i fynegi eu teimladau, dywedodd Elin: "Dwi'n meddwl bod siarad angen cael ei hybu fwy - mae'n rhywbeth mor bwysig y dyddiau hyn.
"Dwi'n dweud ei fod o'n bwysig ond doedd o ddim yn rhywbeth yr oeddwn i arfer gwneud.
"Mae'n bwysig pwysleisio'r effaith. Mae'n rhyddhad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2018