Dedfrydu deg aelod o giang cyffuriau yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Naw aelod o'r giang cyffuriau yn WrecsamFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae naw aelod o'r giang wedi'u carcharu am gyfnodau amrywiol

Mae naw aelod o giang cyffuriau wedi'u carcharu am gyfnodau amrywiol am ddosbarthu cyffuriau Dosbarth A yn ardal Wrecsam.

Mae aelod arall, Corey Ducket, 18 oed wedi'i ddedfrydu i ddwy flynedd wedi'i ohirio ar ôl iddo gael ei "hudo" i gymryd rhan yn y weithred.

Fe gafodd Operation Loot ei lansio ar ôl i heroin a chocên 'crack' gael ei ddarganfod yng nghar un o'r dynion, Kieron Gracey.

Fe arestwyd y giang ym mis Awst ar ôl i'r heddlu ddarganfod gwerth £18,000 o gyffuriau a £5,000 o arian parod yn eu meddiant.

Roedd y dynion yn gweithredu rhan amlaf yn ardal Clos Owen a Pharc Caia wrth i'r heddlu gadw llygaid barcud ar gartref Ben Coffin a oedd yn dosbarthu cyffuriau i gwsmeriaid yn ei ardd.

Fe gafodd Tyrone Edwards, 24 oed, oedd yn cael ei ddisgrifio fel y trefnydd ei garcharu am chwe blynedd ac wyth mis.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i'r heddlu gario un aelod o'r giang cyffuriau, Rhys Williams ar ôl iddo geisio dianc wrth i'r heddlu geisio ei arestio

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod Edwards wedi rheoli'r gweithrediadau ac roedd yn cael ei weld gan bawb fel y person oedd yn rheoli popeth.

Roedd yn derbyn y cyffuriau a threfnu iddyn nhw gael eu dosbarthu gan eraill.

Fe gafodd Kieron Gracey, 23 o Wrecsam ei garcharu am dair blynedd a dau fis ar ôl i'r barnwr ddweud ei fod yn gyrru Edwards o gwmpas a'i fod yn ymwybodol o faint y cyrch.

Ben Coffin, 19 oed, oedd yn gyfrifol am "ddarparu'r siop" meddai'r barnwr, ac fe garcharwyd am ddwy flynedd a deg mis ynghyd gyda, Levi Rowlands 18 oed, a Rhys Williams, 18, y ddau o Wrecsam.

Fe garcharwyd y gwerthwyr, Lucas Hopson, 21, Alex Williams, 21, Adam Roberts, , and Jessica Dunmner, 23, i gyd o ardaloedd amrywiol yn Sir Wrecsam hefyd am yr un cyfnod.

Fe wnaeth pob un ohonyn nhw gyfaddef i gyhuddiad o gynllwynio dros gyfnod o chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn.

Ychwanegodd y barnwr ei fod yn "siomedig gweld cymaint o bobl ifanc yn y doc".