Jess Fishlock yn derbyn yr MBE ym Mhalas Buckingham
- Cyhoeddwyd

Mae Jess Fishlock wedi chwarae 101 o weithiau i Gymru
Mae'r chwaraewr pêl-droed sydd wedi chwarae'r nifer mwyaf o gemau dros Gymru wedi derbyn anrhydedd gan Dywysog Cymru ym Mhalas Buckingham.
Mae Jess Fishlock, 31 oed ac sydd wedi ennill 101 o gapiau rhyngwladol, wedi derbyn MBE am ei chyfraniad i bêl-droed.
Roedd Fishlock yn chwaraewr allweddol yn nhîm Jayne Ludlow yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2019, pan fethodd Cymru yn ei gêm olaf yn erbyn Lloegr.
Mae Fishlock bellach yn chwarae i glwb Lyon yn Ffrainc ac yn parhau i fod ar gael i Gymru er iddi ddweud yn yr haf ei bod hi'n ystyried ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018