Fishlock a Fitzpatrick ar restr anrhydeddau'r Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae'r pêl-droediwr Jessica Fishlock yn un o'r Cymry sydd wedi eu gwobrwyo ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines eleni.
Mae seren tîm pêl-droed merched Cymru, yr unig un i ennill dros 100 o gapiau dros y wlad, yn derbyn MBE am ei gwasanaeth i bêl-droed merched a'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol.
Ymysg yr enwau adnabyddus eraill o Gymru mae'r sgïwr Paralympaidd Menna Fitzpatrick.
Bydd Fitzpatrick, yr ifancaf ar y rhestr, yn derbyn MBE am wasanaeth i Gemau Paralympaidd y Gaeaf ar ôl ei llwyddiant yn y gemau yn Pyeongchang eleni.
'Llwyddiannau anhygoel'
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei bod hi'n "bleser" iddo longyfarch y rhai ar y rhestr.
"Mae'r anrhydeddau hyn yn cydnabod llwyddiannau anhygoel unigolion eithriadol sy'n gweithio'n ddiflino i wella bywydau pobl eraill ac i ysbrydoli'r rheiny sydd o'u cwmpas," meddai.
"Rwy'n falch o weld pobl o Gymru, o bob cefndir, yn cael eu cydnabod am eu llwyddiannau, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i'w cymunedau."
Mae'r anrhydeddau'n rhoi cydnabyddiaeth i bobl sydd wedi gwneud llwyddiannau mewn bywyd cyhoeddus neu helpu Prydain;
Cafodd y system ei sefydlu yn 1917 gan y Brenin George V;
Crewyd y rhestr er mwyn anrhydeddu'r rhai nad oedd wedi ymladd ond oedd wedi chwarae rôl bwysig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
'Ysbrydoliaeth i bawb'
Wrth drafod llwyddiannau Jess Fishlock, dywedodd Mr Cairns ei bod hi'n "chwaraewr arbennig, yn esiampl barhaol ac yn ysbrydoliaeth i bawb".
Roedd neges debyg yn cael ei gyfleu wrth iddo drafod anrhydedd Menna Fitzpatrick hefyd, gan ddatgan ei bod hi wedi "cipio dychymyg pobl" gyda'i pherfformiad yn y Gemau Paralympaidd diweddar.
"Gyda'i thywysydd Jen Kehoe, fe ddangosodd Menna gryfder meddyliol arbennig i ennill yr holl fedalau, gan gynnwys y fedal aur," meddai.
Roedd perfformiad Fitzpatrick yn y gemau yn Pyeongchang yn ddigon iddi gael teitl Paralympiwr Gaeaf fwyaf llwyddiannus Prydain, a hithau ond yn 20 oed.
Ymhlith y Cymry eraill ar y rhestr mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Mark Polin.
Bydd Mr Polin yn derbyn OBE am ei wasanaeth i blismona.
Mae nifer o Gymry eraill hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr anrhydeddau am eu gwasanaeth i wahanol feysydd, ac mae modd gweld y rhestr yn llawn ar wefan Swyddfa'r Cabinet., dolen allanol
Dywedodd Fishlock ei bod yn "fraint enfawr" cael ei chydnabod "am bwy ydych chi a beth 'dych chi'n ei wneud".
"Mae'n grêt i mi a fy nheulu a'r garfan hefyd, mae'n grêt i weld ein bod ni'n cael ein cydnabod fel pêl-droedwyr a bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad iawn."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio gallu bod yn ysbrydoliaeth i'r gymuned LGBT a'i fod yn bwnc sydd yn "agos at fy nghalon".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2017