'Gweithwyr prifysgolion ar gytundebau ansicr dan straen'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn teimlo'n fregus mewn cytundebau cyflogaeth "ansicr" gan brifysgolion, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae Undeb y Colegau a'r Prifysgolion (UCU) yn honni nad yw tua hanner y gweithlu addysg uwch yn y DU ar gytundebau tymor hir sefydlog.
Yn ôl y corff sy'n cynrychioli prifysgolion ar faterion cyflogaeth mae 'na resymau ymarferol am batrymau cyflogaeth amrywiol.
Dywedodd un aelod o staff mewn prifysgol yng Nghymru bod ansicrwydd y swydd yn achosi "straen".
Mae UCU yn ymgyrchu ar draws Prydain yn erbyn yr hyn maen nhw'n ei weld fel tuedd i ffwrdd o gytundebau parhaol, sicr.
Mae'n dweud bod cytundebau tymor byr a chytundebau 'penagored' heb isafswm oriau pendant yn rhan o ddirywiad cyffredinol mewn amodau i weithwyr addysg uwch.
'Y teimlad o berthyn'
Yn ôl Cymdeithas Cyflogwyr y Colegau a Phrifysgolion (UCEA), mae'r mwyafrif helaeth o staff dysgu ac ymchwil wedi eu cyflogi yn hir dymor.
Ac maen nhw'n dweud bod cyflogi am gyfnod penodol neu amrywiol yn angenrheidiol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, wrth gyflogi gweithwyr â sgiliau o du allan i'r sector i gyfrannu at ddysgu arbenigol neu wrth roi cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr ôl-radd.
Ond mae aelod o staff Prifysgol Caerdydd, oedd eisiau aros yn ddienw, yn dweud ei bod hi'n teimlo o dan straen ac yn bryderus ar gytundeb sydd heb sicrwydd isafswm oriau penodol.
"Mae 'na straen arnoch chi achos bo' 'da chi gytundeb pen agored ond heb isafswm oriau a heb gyflog penodol... chi'n teimlo mewn sefyllfa fregus iawn achos chi byth yn gwybod os fyddwch chi'n gweithio o un tymor i'r llall neu o un flwyddyn i'r llall," meddai.
"Un mis fe allwch chi gael cyflog eitha' da achos y'ch chi'n gweithio llawer o oriau - wedi hynny mewn mis arall dyw'ch cyflog chi ddim yn fawr iawn achos chi'n gweithio llai o oriau.
"Ac wedi hynny, er enghraifft yn ystod yr haf, does gennych chi ddim cyflog o gwbl."
Roedd Renata Medeiros, swyddog gyda UCU ym Mhrifysgol Caerdydd, ar gytundebau byr-dymor ei hun cyn iddi sicrhau swydd barhaol.
Mae hi'n credu bod cynnydd wedi bod ar draws y sector prifysgolion fel modd o arbed arian.
"Mae'r gallu i feddwl yn hirdymor, i ddatblygu gyrfa yn amlwg yn gyfyngedig… mae pobl yn teimlo'n fregus yn y sefyllfa yna," meddai.
"Yn amlwg dydy hynny ddim yn dda i'r myfyrwyr ychwaith - y teimlad yna o berthyn a bod yn rhan o'r sefydliad, dydy'r bobl ar gytundebau ansicr ddim wir yn elwa o hynny.
"Mae eu gallu i ddarparu'r addysg ardderchog y mae'r brifysgol mor falch ohono yn gyfyngedig."
'Telerau ac amodau hael'
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd bod y brifysgol yn talu cyflog byw ac nad ydyn nhw'n cynnig cytundebau 'dim oriau'.
"Fel pob cyflogwr mae'r brifysgol yn cyflogi staff i wneud gwaith amrywiol iawn," meddai llefarydd.
"Mae rhai mathau o waith yn gyson a hirdymor. Mae gwaith arall angen ei wneud am gyfnod byr neu'n ymwneud â phrosiectau penodol sydd â therfyn amser penodedig neu sy'n gorffen pan mae nod arbennig wedi ei gyflawni.
"O ganlyniad mae'r brifysgol yn llunio cytundebau gydag amrywiaeth o bobl mewn nifer o ffyrdd gwahanol i ddarparu'r gwasanaethau amrywiol.
"Mae'r mwyafrif helaeth o'n staff, yn weithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol, wedi eu cyflogi ar gytundebau pen-agored ac yn mwynhau telerau ac amodau hael o'u cymharu â sectorau eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2016
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018