Gwrthdrawiad Pwllheli: Dyn 20 oed yn y llys
- Cyhoeddwyd

Bu farw Rebecca Louise yn y gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog nos Wener
Mae dyn 20 oed o Gricieth wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Mae Osian Hicks-Thomas hefyd wedi ei gyhuddo o yrru o dan ddylanwad alcohol, peidio â stopio wedi gwrthdrawiad a pheidio rhoi gwybodaeth am y gwrthdrawiad.
Mae'n dilyn digwyddiad ar yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog tua 19:00 nos Wener.
Bu farw Rebecca Louise Edwards - nyrs 34 oed o Lanberis - yn y fan a'r lle.

Bu farw Rebecca Louise Edwards yn y fan a'r lle
Mewn gwrandawiad wnaeth bara llai na phum munud yn Llys Ynadon Llandudno fore Llun, fe siaradodd Mr Hicks-Thomas i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 14 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2018