Gwrthod datblygiad tai ar safle pwll glo

  • Cyhoeddwyd
Tŷ Gwyntyll WalkerFfynhonnell y llun, Geograph/ John Lucas
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r datblygiad wedi golygu codi tai bob ochr i'r adeilad cofrestredig Gradd II

Mae cynllun i godi tai o amgylch adeilad cofrestredig "o bwysigrwydd cenedlaethol" wedi cael ei wrthod.

Roedd datblygwyr yn awyddus i godi'r tai ar safle hen bwll glo Wynnstay yn Rhiwabon ger Wrecsam, ond byddai hynny wedi golygu codi'r tai bob ochr i Dŷ Gwyntyll Walker a gafodd ei godi yn 1902 i awyru'r pwll.

Mae Cyngor Wrecsam wedi gwrthod y cynllun am chwech o dai gan ddweud nad oedd digon o wybodaeth am yr effaith ar yr adeilad hanesyddol.

Dywedodd y corff henebion Cadw fod Tŷ Gwyntyll Walker yn adeilad "o bwysigrwydd cenedlaethol" oherwydd ei fod yn ehangu gwybodaeth am arferion diwydiannol hanesyddol.

Roedd y datblygwyr yn dweud na fyddai'r gwaith o godi tai yn achosi unrhyw ddifrod i'r adeilad, ond fe wnaeth swyddogion y cyngor nodi nad oedd pryderon am asesiadau llifogydd wedi eu hateb.

Wrth wrthod y cais, dywedodd y cyngor: "Nid oedd digon o wybodaeth wedi ei chyflwyno gyda'r cais i ddangos na fyddai'r datblygiad arfaethedig a gwaith cysylltiol yn cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar yr adeilad cofrestredig."