'Dim cyfiawnder' i ddioddefwyr cam-drin
- Cyhoeddwyd
Nid yw dioddefwyr trais yn y cartref yn cael cyfiawnder am nad yw heddluoedd nac erlynwyr yn defnyddio cyfraith newydd i ddelio gyda'r rhai sy'n cam-drin, yn ôl un sydd wedi diodde'.
Yn 2015 fe gyflwynwyd y drosedd newydd o ymddygiad rheolaethol neu gymhellol, ond mae ffigyrau'n dangos mai dim ond 4% o gwynion sy'n arwain at euogfarn.
Cafodd Lisa Flavin, 37 oed o Gaerdydd, ei siomi'n arw pan gafodd cyhuddiad yn erbyn ei chynbartner ei ollwng.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ymddiheuro i Ms Flavin.
Gall ymddygiad rheolaethol neu gymhellol o fewn perthynas teuluol gynnwys gweithred fygythiol, neu un sy'n gwneud i'r dioddefwr deimlo'n ddibynnol neu israddol.
Esiamplau o hyn yw torri'r cysylltiad rhwng y dioddefwr a'r teulu, eu hatal rhag cael arian annibynnol neu reoli lle y maen nhw'n mynd.
Yn ôl ffigyrau ddaeth i law BBC Cymru drwy gais rhyddid gwybodaeth, fe gafodd 1,079 o gwynion eu gwneud i heddluoedd Cymru ers i'r ddeddf ddod i rym.
Arweiniodd hynny at 121 o gyhuddiadau, ond dim ond 47 euogfarn.
Cafodd partner Ms Flavin ei gyhuddo'n wreiddiol o ymddygiad rheolaethol neu gymhellol, ond penderfynodd erlynwyr yn hytrach dderbyn ple euog o'r cyhuddiad llai o aflonyddu heb drais.
Dywedodd Ms Flavin: "Mae angen i'r CPS a'r llysoedd ddechrau cymryd hyn o ddifri, oherwydd dyma'r sail i bob math arall o gam-drin.
"Mae'n dechrau drwy eich rhoi mewn ffordd o feddwl lle'r rydych yn credu fod eu hymddygiad yn dderbyniol... mae'n anodd deall os nad ydych chi wedi bod yn y sefyllfa yna."
Ffigyrau 'siomedig' a 'phryderus'
Mae'r bargyfreithiwr a chyn-Aelod Seneddol Elfyn Llwyd yn credu fod y CPS yn ei gweld yn haws cyflwyno cyhuddiad llai, ac ychwanegodd: "Yn fy marn i mae hynny'n achos o dan-gyhuddo, oherwydd mae natur ymddygiad rheolaethol yn gwbl wahanol.
"Mae'n rhoi enw drwg i'r gyfraith, ac i'r ymdrechion y gwnes i er mwyn dod â hyn drwy'r senedd, ac mae gweld fod pobl heb gael cyfiawnder yn siom fawr i mi."
Mae mudiad Cymorth i Ferched Cymru hefyd wedi disgrifio'r ffigyrau fel "pryderus".
Dywedodd y CPS fod eu herlynwyr yn derbyn hyfforddiant "priodol", ac mae'n cydnabod yr effaith y gall ymddygiad o'r fath ei gael.
Meddai llefarydd ar ran y CPS: "Ers 2016-17 mae nifer yr achosion sydd wedi eu dwyn gerbron llysoedd am y drosedd yma wedi cynyddu bedair gwaith yng Nghymru.
"Er hynny nid yw bob adroddiad heddlu yn sicr o ddiweddu mewn cyhuddiad gerbron llys.
"Rhaid defnyddio'r meini prawf yng nghanllawiau Erlynwyr y Goron yn gyfartal yn yr achosion yma, fel ymhob achos arall sy'n cael ei gyfeirio gan yr heddlu."