Cyhuddo gweithiwr GIG o dwyll gwerth £40,000

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae un o weithwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael ei gyhuddo o dwyll gwerth £40,000.

Honnir i Neil Stephen Roberts, oedd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, werthu nifer o liniaduron ar eBay dros gyfnod o bedair blynedd.

Ymddangosodd Mr Roberts gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd Mr Roberts yn bwriadu cyflwyno ple yn erbyn y cyhuddiad.

Yn ôl y cyhuddiad fe wnaeth Mr Roberts werthu nifer o liniaduron a oedd yn eiddo i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhwng Mehefin 2013 a Mawrth 2017 gan dderbyn £40,000.

Roedd yn gweithio fel technegydd cefnogol ar y pryd.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ailymddangos yn llys ynadon yr Wyddgrug ar 25 Ionawr.