Dioddefwr camdriniaeth Bryn Estyn am achub yr hen gartref
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ddioddefodd gamdriniaeth mewn cartref plant wedi galw am beidio â dymchwel yr hen adeilad yn Wrecsam.
Roedd Keith Gregory yn arfer byw yng nghartref Bryn Estyn, ac mae'n yn dweud er iddo ddioddef yno bod yr adeilad dal yn "gartref" iddo ac i eraill.
Mae cynghorwyr Wrecsam yn bwriadu cynnal ymchwiliad i ddyfodol yr adeilad gyda'r cynllun i'w ddymchwel yn un posibilrwydd.
Yn 2011, daeth adroddiad Jillings i'r canlyniad bod camdriniaeth plant wedi digwydd "ar raddfa fawr" yn ystod y 1970au a'r 1980au.
Adran Addysg Cyngor Wrecsam sydd yn gyfrifol am gynnal yr adeilad.
Ond mae Mr Gregory, sydd wedi siarad am ei brofiadau o'r blaen, yn dweud er y "pethau drwg a ddigwyddodd yno, nid bai'r adeilad oedd o".
Dywedodd fod yr adeilad yn un "hyfryd" ac y dylai ei drawsnewid i fod yn rhywbeth tebyg i "gartref i'r henoed".
"Dwi'n mynd i'r gerddi Fictoraidd yn eithaf aml ac i mi, mae'n gysur."
Cyngor eisiau dymchwel
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, sy'n gyfrifol am addysg, fod y cyngor wedi cysylltu gyda Cadw i weld os oedd diddordeb rhestru'r adeilad ond nad oedd ganddyn nhw.
"Wrth ystyried mai arian yr adran addysg sy'n cael ei wario i gynnal yr adeilad buaswn i'n hoffi gweld y lle yn cael ei ddymchwel", meddai Mr Wynn.
Dywedodd Cyngor Wrecsam eu bod mewn cysylltiad gyda swyddogion heddlu oedd yn gyfrifol am ymchwilio i gamdriniaeth plant hanesyddol er mwyn rhoi gwybod am y datblygiad i ddioddefwyr.
Bydd dyfodol yr adeilad yn cael ei drafod gan aelodau'r bwrdd ar 8 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2017