Dyn o'r gogledd yn 'wystl' i ddelwyr cyffuriau yn ei gartref

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"O'n i fatha 'hostage' am ddau ddiwrnod"

Mae dyn sy'n honni i ddelwyr cyffuriau feddiannu ei gartref yn dweud bod y profiad yn "frawychus".

Yn ôl y dyn, sy'n dod o ogledd Cymru, cafodd ei "dargedu" gan werthwyr y llynedd.

Cuckooing yw'r enw am y drefn lle mae giang yn meddiannu cartrefi er mwyn gwerthu cyffuriau oddi yno.

Dywedodd y dyn, oedd am fod yn ddi-enw, y dylai'r heddlu wneud mwy i helpu unigolion bregus allai gael eu targedu.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw'n "parhau i ymchwilio i'r troseddau difrifol a elwir yn 'cuckooing' a byddwn yn ymdrechu i ddiogelu'r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau".

Mae digwyddiadau o'r fath yn aml yn gysylltiedig â rhwydweithiau Llinellau Cyffuriau neu County Lines - ac yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol mae tua 2,000 o linellau yn weithredol ar draws y DU.

Beth yw 'Llinellau Cyffuriau'?

  • Llinellau Cyffuriau, neu County Lines, yw'r enw am y rhwydweithiau masnachu cyffuriau sy'n cysylltu ardaloedd trefol a gwledig gan ddefnyddio llinellau ffôn pwrpasol;

  • Yn aml mae pobl ifanc yn cael eu gyrru i ardaloedd y tu allan i'r dinasoedd mawr i werthu cyffuriau;

  • Wedi iddyn nhw sefydlu eu hunain mewn ardal, maen nhw'n gwerthu cyffuriau gan ddefnyddio rhifau ffôn arbennig;

  • Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae tua 2,000 o linellau o'r fath yn weithredol ar draws y DU;

  • Mae'r corff yn amcangyfrif bod tua hanner o'r rheiny mewn trefi arfordirol bychain.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, fe soniodd y dyn am ei brofiad honedig.

"O'dd 'na gnoc ar y drws a dyma fi'n sbio drwy'r spyhole ac ro'dd 'na grŵp o hogia' yna. Dyma fi'n agor y drws a gofyn be' oeddan nhw isio, [ond] 'nath y grŵp jyst cerdded heibio, syth i mewn i lle dwi'n byw.

"O'n i fatha hostage am ddau ddiwrnod. D'on i ddim yn cael watiad TV na dim byd, ro'dd rhaid i fi aros yn fy 'stafell wely, a dim ond y toiled o'n i'n cael ei iwsio."

Mae'n dweud bod y delwyr cyffuriau'n mynd a dod o'i gartref wrth werthu.

"Ro'dd yr hogia'n fawr. O'n i'n eu clywed nhw'n siarad, a'r petha' oeddan nhw'n dd'eud: 'We'll put his flat on fire', petha' fel 'na.

"Dwi ddim yn gwybod os mai jyst d'eud o i 'nychryn i oeddan nhw - ond mi oedd o'n 'nychryn i."

Dywedodd ei fod wedi bod yn disgwyl am y cyfle i ddianc o'i gartref.

"O'dd [y grŵp] jyst i fewn ac allan, i fewn ac allan... R'odd o'n warthus, 'de.

"Ro'n i jyst yn meddwl 'how can I stop this?'

"'Naethon nhw adael y drws ffrynt ar agor a 'nes i jyst dianc a mynd allan."

'Targedu pobl fregus'

Mae ystadegau'n awgrymu bod Llinellau Cyffuriau yn cael cryn effaith ar Gymru.

Roedd yn ffactor yn y cynnydd o 25% mewn troseddau cyllell rhwng 2017 a 2018, a dywedodd prif gwnstabl newydd Heddlu'r Gogledd fod y rhanbarth yn "dioddef" yn ei sgil.

Mae digwyddiadau fel llofruddiaeth y llanc Matthew Cassidy yn Sir y Fflint wedi cael eu cysylltu gyda'r rhwydweithiau hyn, ac fe gafodd aelodau o giang cyffuriau o Wrecsam eu carcharu ym mis Hydref 2018.

Yn ôl y dioddefwr honedig, doedd cuckooing ddim yn digwydd 20 mlynedd yn ôl. Ond bellach, mae pobl fregus yn cael eu targedu gan werthwyr cyffuriau.

Fel cyn-ddefnyddiwr cyffuriau caled, sydd hefyd wedi dioddef ag iselder, mae'n credu iddo gael ei dargedu.

"Pan ti'n cymryd cyffuriau, mae fel [bod mewn] grŵp," meddai.

"Mae 'na bobl sy'n cymryd cyffuriau a phobl sydd ddim yn cymryd cyffuriau. Mae pawb yn gwybod pwy sy'n cymryd be'. Ac wedyn 'we'll go to his house, we'll go to her house', 'de. Maen nhw [y gwerthwyr] yn gwybod lle i fynd."

Mae'n credu dylai'r heddlu wneud mwy i helpu'r rheiny allai fod yn darged.

"Mae 'na lot o bethau 'san nhw'n gallu gwneud," meddai.

"Jyst gweithio allan pwy sy'n cymryd cyffuriau, lle maen nhw'n byw, pwy sy'n byw ar ben eu hunain... [pwy sydd mewn] set-up i rywun gerdded i fewn a chymryd y tŷ drosodd.

"[Mae angen iddyn nhw] weithio allan pwy 'di pwy, a jyst mynd yna a gofyn 'are you OK?'. Petha' bach fel 'na."

Ychwanegodd: "Mae'r gwerthwyr ddwy neu dair cam ar y blaen."

Cafodd unigolion eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad honedig, ond ni chafodd unrhyw un ei gyhuddo.

'Trais enbyd'

Wrth drafod y mater ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd cyn-brif gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Gareth Pritchard, fod y broblem "wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf".

"Mae o'n bryder pan mae'r gangiau 'ma yn dŵad i mewn i'n hardaloedd ni ac yn targedu pobl sydd yn fregus, ac yn defnyddio'u cartref nhw fel base i wneud y gwaith yma," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r trais sy'n cael ei ddefnyddio yn enbyd, ac mae'n rhywbeth newydd dros y blynyddoedd diwethaf.

"Felly mae hwn dal yn flaenoriaeth i'r Comisiynydd Heddlu a'r prif gwnstabl newydd."