Yr heddlu yn derbyn 2,300 o fideos 'dashcam' yn 2018
- Cyhoeddwyd
Roedd dau yrrwr gafodd eu ffilmio gyda chŵn ar eu gliniau ymysg y 2,300 clip 'dashcam' gafodd eu hanfon at yr heddlu y llynedd.
Cafodd Operation Snap ei gyflwyno ledled y wlad dros 12 mis yn ôl er mwyn prosesu'r holl ddeunydd fideo.
Cafodd ei ehangu ar ôl i gynllun peilot yng ngogledd Cymru arwain at gosbi 150 o fodurwyr.
Ond mae data newydd yn dangos bod cannoedd o achosion eraill wedi arwain at gosbau hefyd.
Dywedodd arolygydd Heddlu Gwent, Lee Ford, fod ymateb y cyhoedd wedi bod yn "ardderchog".
"Mae e wedi bod yn ffordd ymarferol iawn o fynd i'r afael â gwahanol fathau o yrru gwael," meddai.
'Gyrru peryglus hollol blaen'
Yn ddibynnol ar y drosedd, mae gyrwyr yn gallu derbyn dirwyon neu gael eu hanfon ar gyrsiau, tra bod eraill wedi cael eu herlyn yn y llys.
Yn ôl Teresa Ciano, rheolwr partneriaeth GoSafe, mae rhai clipiau yn dangos modurwyr ar eu ffonau yn ogystal ag achosion o oryrru neu yrru'n beryglus.
Eglurodd Ms Ciano bod y cynllun wedi cael ei sefydlu i gasglu deunydd fideo sy'n cael ei anfon at yr heddlu ac sy'n cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth ffurfiol.
"Weithiau mae'r lluniau'n dangos gyrru peryglus yn hollol blaen, ond mae rhai eraill sy'n esiampl o benderfyniadau gwael," meddai.
Dywedodd GoSafe bod cyfanswm o 2,353 o glipiau fideo wedi eu cyflwyno i'r heddlu rhwng Tachwedd 2017 a Hydref 2018.
Allan o'r 1,000 clip derbyniodd Heddlu De Cymru, arweiniodd 100 achos at ddirwyon, 83 at achosion llys a chafodd 90 gyrrwr eu gorfodi i fynychu cwrs addysgu.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd eu bod nhw wedi derbyn 650 clip yn y cyfnod dan sylw, gan arwain at 81 gyrrwr yn mynd ar gwrs ail-hyfforddi, 25 gyrrwr yn cael eu herlyn a 24 o ddirwyon.
231 clip gafodd eu hanfon at Heddlu Gwent rhwng Ionawr a Hydref, gyda phob achos, ac eithrio dau, yn arwain at gosbi'r unigolyn.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi derbyn cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd21 Awst 2017
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2018