Dwsinau o blant dan 10 oed wedi'u cyhuddo o dreisio
- Cyhoeddwyd

Mae 38 o blant dan 10 oed wedi cael eu cyhuddo o dreisio yn y chwe blynedd diwethaf, yn ôl data sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Cafodd pob un o'r achosion eu gollwng, oherwydd mai 10 yw oedran cyfrifoldeb troseddol.
Dros yr un cyfnod cafodd 106 honiad o ymosodiad rhyw eu gwneud yn erbyn plant dan 10, yn ôl Cais Rhyddid Gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu.
Dywedodd NSPCC Cymru fod angen addysgu plant ynglŷn â chydsyniad a ffiniau.
'Llawer rhy aml'
Roedd y nifer fwyaf o gyhuddiadau yn ardal Heddlu'r Gogledd, gyda 20 honiad o dreisio a 33 o ymosodiad rhyw yn erbyn plant dan 10.
Fe wnaeth nifer y cyhuddiadau gynyddu o ddau adroddiad o ymosodiad rhyw yn 2013 i 23 yn 2016 cyn gostwng ychydig - ond dyw'r darlun llawn ar gyfer 2018 ddim yn glir eto.
Dangosodd data Heddlu Dyfed Powys bod chwe chyhuddiad o dreisio a 61 o ymosodiad rhyw yn erbyn plant oedd yn rhy ifanc i gael eu herlyn.
Yng Ngwent roedd 12 cyhuddiad o dreisio a 12 cyhuddiad o ymosodiad rhyw.
Ni chafodd unrhyw droseddau o'r fath eu cofnodi gan Heddlu'r De, ond dywedodd y llu nad oedd data o'r fath yn cael ei gasglu ac er bod dadansoddwyr heb ddod o hyd i unrhyw achosion, doedd dim sicrwydd nad oedd rhai wedi bod.

NSPCC: 'Gall ddioddefwr a'r thramgwyddwr ddioddef niwed parhaus o ganlyniad i gam-drin'
Dywedodd llefarydd ar ran NSPCC Cymru fod yr elusen yn ymwybodol fod troseddau rhyw gan blant yn digwydd "yn llawer rhy aml".
"Mae rhywbeth sydd yn arbennig o ofnadwy ac annifyr am blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol gan berson ifanc arall," meddai.
"Yn anffodus rydyn ni'n gwybod fod hyn yn digwydd yn llawer rhy aml, gyda'n gwasanaeth Childline yn darparu miloedd o sesiynau cwnsela y flwyddyn i blant y mae hyn wedi digwydd iddyn nhw."
Dywedodd yr heddlu bod unrhyw adroddiadau o'r natur hon yn cael eu hymchwilio'n drylwyr.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed Powys nad oedd dull safonol o gasglu data o'r fath ac felly roedd yn anodd cymharu gyda lluoedd eraill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018