Perchennog garej gwaith Banksy 'angen help'
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog y garej a ddewisodd Banksy i arddangos ei waith celf diweddaraf wedi dweud ei bod hi'n "anodd delio gyda'r fath gyfrifoldeb".
Ymddangosodd y graffiti ar wal y gweithiwr dur ym Mhort Talbot wythnos cyn y Nadolig.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ian Lewis ei fod angen help i ddod o hyd i ateb tymor hir i ddiogelu'r graffiti.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod Llywodraeth Cymru am edrych i weld beth allent wneud i gadw'r darn rhag niwed.
'Methu delio â'r holl beth'
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd a swreal," meddai Mr Lewis.
"Mae'r cyfan wedi bod yn gymaint i fi. Dwi'n rheoli atyniad celf ar ben fy hun.
"Mae dros 1,000 o bobl yn ymweld bob dydd, bob awr o'r dydd a'r nos - dwi methu delio â'r holl beth i fod yn onest."
Dywedodd Mr Lewis ei fod yn deall pam fod pobl yn cymharu ei sefyllfa ag ennill y loteri ac mae'n dadlau y byddai'r gwaith celf wedi cael ei ddwyn neu ei fandaleiddio pe bai'r actor Michael Sheen ddim wedi dod i'r adwy a thalu costau diogelwch.
"Doeddwn i ddim yn gwybod ar y dechrau mai gwaith Banksy oedd e," meddai.
"Roeddwn yn meddwl mai gwaith celf ffantastig oedd e a fy mwriad oedd ei orchuddio a'i gadw i fi fy hun.
"Ond wedyn fe ledaenodd y neges ar Facebook y gallai fod yn waith Banksy."
Ychwanegodd Mr Lewis: "Y noson gyntaf roedd pobl yn dod yno ac am dorri darnau o'r gwaith bant.
"Roedd yna sôn fod pobl am dorri darn o'r wal a mynd ag ef adref - roedden nhw am ei ddwyn.
"Dwi wedi bod yn teimlo lot o bwysau, mae fel petai bom wedi disgyn arnai. Dwi angen bach o normalrwydd - ac am i bethau fynd 'nôl fel oedden nhw."
Cyn y Nadolig roedd y gwaith wedi cael ei orchuddio mewn cynfas blastig a dywedodd gwirfoddolwyr ar y safle ei fod wedi cael ei dargedu nifer o weithiau.
Wrth i 20,000 ymweld â'r gwaith yn ystod gwyliau'r Nadolig, dywedodd Mr Lewis ei fod yn dymuno bellach i'r gwaith symud i safle mwy diogel yn yr ardal.
"Efallai bod angen i'r gwaith fod yng nghanol y dref. Dwi'n meddwl bod angen tîm o arbenigwyr i'w symud," meddai.
"Efallai y dylai'r Cynulliad ddod i'r adwy, mae'n drysor celfyddydol ac yn ormod i fi."
'Mae Ian angen help'
Dywedodd yr actor Michael Sheen: "Y pryder ar hyn o bryd yw lles Ian.
"Mae wedi bod yn gyfnod hynod o bryderus [i Ian]; mae'r cyfan yn faich ariannol iddo ac ar hyn o bryd does neb yn ei helpu. Rydw i wedi gwneud yr hyn a fedraf ond ry'n ni angen ateb tymor hir.
"Mae'n beth gwych fod y gwaith yno ac mae'n beth da fod Banksy wedi dod a gwneud hyn gan roi sylw i Bort Talbot. Ond mae Ian angen help nawr ac rwy'n gobeithio y gall y gwaith aros ym Mhort Talbot."
Gan fod y gwaith celf ar dir preifat, dyletswydd Mr Lewis yw ei ddiogelu ac ef hefyd sy'n rheoli'r miloedd o ymwelwyr sy'n dod yno.
Mae Bethan Sayed AC, sy'n cadeirio'r pwyllgor diwylliant, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i brynu'r gwaith celf.
"Yn amlwg mi fyddai'n rhaid i'r perchennog gydsynio [i'r pryniant] - mae hwn yn eiddo preifat," meddai.
"Os ydym am ei ddiogelu a'i gadw yng Nghymru - mae'n rhaid i ni ei gael fel eiddo cenedlaethol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "awyddus i weithio gyda phwy bynnag sydd â diddordeb i sicrhau cynllun ar gyfer murlun Banksy".
Amddiffyn y darn rhag niwed
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau na fydd unrhyw "niwed di-alw-amdano" yn digwydd i'r murlun.
Wrth siarad yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg ers iddo olynu Carwyn Jones fel prif weinidog, dywedodd Mr Drakeford ei fod am ofyn i'r gweinidog diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, edrych ar y mater.
Dywedodd ei fod am ofyn iddo "godi'r mater, i siarad gyda phobl sydd angen cyfarfod â nhw a gweld pa ran o Lywodraeth Cymru, nid yn uniongyrchol mwy na thebyg ond drwy fudiadau rydym yn eu hariannu yn y meysydd hynny, i weld beth all gael ei wneud i sicrhau nad oes yna niwed di-alw-amdano yn digwydd i'r darn o gelf newydd rydym wedi gallu ei fwynhau".
Yn y cyfamser, mae Ms Sayed hefyd wedi datgan ei bod yn bwriadu gofyn i Amgueddfa Cymru i geisio "dod o hyd i ffordd addas ymlaen".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018