Creu 100 swydd mewn parc gwyliau ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
Llun arlunydd o'r bwytyFfynhonnell y llun, Llun arlunydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y buddsoddiad yn cynnwys adeiladu bwyty newydd yn y parc

Bydd 100 o swyddi yn cael eu creu ym mharc gwyliau Hafan y Môr ym Mhwllheli wedi buddsoddiad yn y safle.

Daw'r buddsoddiad gan y perchnogion, Haven, sydd am greu bwyty newydd a datblygiad awyr agored yn y parc.

Bydd 30 o swyddi yn cael eu creu mewn tîm hamdden a chwaraeon, a 30 yn y pwll nofio.

Fel rhan o'r cynllun bydd y parc hefyd yn datblygu swyddi yn eu canolfan adloniant, siop, derbynfa a'r adran diogelwch.