'Hinsawdd o ofn' mewn ysgol uwchradd yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
ysgol aberteifiFfynhonnell y llun, Google

Mae dau o gyn-athrawon Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi dweud eu bod nhw wedi wynebu hinsawdd o ofn tra'n gweithio yno, gyda'r ysgol nawr yn wynebu bygythiad o streic.

Mae un cyn-athro wedi dweud wrth Newyddion9 ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei danseilio gan arferion rheoli yno.

Dywedodd cyn-athro arall ei fod yn ofni mynd i'r ysgol oherwydd pwysau yn y gwaith.

Mae ymchwiliad annibynnol bellach wedi ei gomisiynu gan Gyngor Ceredigion i gwynion gan gyn-athrawon.

Doedd y cyngor ddim yn fodlon gwadu na chadarnhau eu bod nhw wedi cael cwynion, erbyn hyn, gan fwy na 10 o athrawon presennol a chyn-aelodau staff.

'Beirniadu drwy'r amser'

Ar 21 Rhagfyr, fe bleidleisiodd mwyafrif aelodau undeb NASUWT yr ysgol o blaid streicio yn sgil yr hyn mae'r undeb wedi disgrifio fel "arferion rheoli andwyol", sydd yn ôl yr undeb wedi "creu hinsawdd o ofn".

Roedd 65% o'r aelodau o blaid streicio, gyda naw athro yn pleidleisio yn erbyn.

Am y tro cyntaf, mae dau gyn-aelod o'r staff wedi siarad am eu profiadau yn yr ysgol. Fe siaradodd un athro gyda BBC Cymru yn ddienw.

"Roedd hinsawdd o ofn. Ac 'wy'n meddwl taw un o'r pethau oedd, bod rhywun yn ei chael hi drwy'r amser... ac o'dd pobl yn meddwl 'o leia' nid fi yw e nawr'," meddai.

"Ac roedd tro i bawb... pan ddaeth e i fi, ro'n i'n gorfod gadael, ond fi'n gwybod am bobl sydd wedi dal ati i weithio 'na, a sai'n gwybod shwd maen nhw'n neud e. Ti'n cael dy feirniadu'r drwy'r amser.

"'Sdim ots beth sydd yn digwydd, dyw e ddim yn ddigon da. A doeddwn i ddim yn teimlo bod unrhyw ymddiried 'na, achos o'dd pethau roeddwn i am wneud ond roedden nhw'n gofyn i fi stopio 'neud nhw. Ro'n i'n ffindio fe yn micromanagement ac roedd e'n uffernol.

"Dwi'n cofio yn y flwyddyn pan oeddwn i yn cwpla... gyrru i'r gwaith ac roedd rhywun enwog wedi marw, sai'n cofio pwy, falle mai rhywun fel Cilla Black er enghraifft.

"A fi'n cofio o'n i'n gyrru i'r ysgol a chlywed bod Cilla Black wedi marw a nes i ddim meddwl 'o dyna drist, mae hi wedi marw'. Fe wnes i feddwl 'maen nhw'n lwcus, does dim rhaid iddyn nhw fynd i'r gwaith'."

'Pwysau'n ormodol'

Fe adawodd Guy Manning ei swydd fel athro celf yn yr ysgol ym mis Rhagfyr. Fe ddywedodd bod pwysau annheg ar athrawon yn yr ysgol.

"Roeddech chi yn cael cyfarwyddyd bod rhaid i ddisgybl fod ar lefel arbennig. A doedden nhw ddim. Dyw eu gwaith nhw ddim ar y lefel 'na," meddai.

"A'r ymateb oedd 'mae'n gorfod bod'... roedd athrawon yn cael llawer iawn mwy o waith papur na sydd angen.

"Mae'n un peth i redeg ysgol dda a gwneud gwelliannau - ond peth arall yw rhoi amser caled i'r staff i'r graddau eu bod nhw'n gadael, maen nhw'n mynd."

Dywedodd Mr Manning bod rhai o'i gyn-gydweithwyr wedi dioddef problemau iechyd meddwl oherwydd y pwysau honedig o fewn yr ysgol.

"Roedd un o fy ffrindiau da yn un o gonglfeini'r ysgol. Roedd y plant yn ei barchu a'r staff yn ei edmygu.

"Fe gafodd e breakdown oherwydd y pwyse... ac rwy'n cofio fe'n dweud 'alla i ddim gwneud hyn'. Galla i ddim a gweld e'n dychwelyd i'r ysgol."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n glir bod safonau a chanlyniadau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi gwella yn sylweddol. Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae hynny diolch i waith caled "staff, llywodraethwyr a disgyblion".

Cafodd arweinyddiaeth y pennaeth ei ganmol mewn adroddiad gan Estyn yn 2015.

Ond yn ôl y cyn-athro wnaeth siarad gyda'r BBC yn ddienw: "Mae'n un peth i godi safonau ond beth yw'r gost?

"A'r gost yw staff yn gadael. Staff yn teimlo yn uffernol a staff sydd moyn gadael dysgu. Os yw'r gost fel 'na i godi safonau - mae'n ormod."

Ymchwiliad

Fe ofynnodd BBC Cymru am gyfweliad gyda naill ai pennaeth yr ysgol, aelod o'r corff llywodraethol neu gynrychiolydd o'r awdurdod lleol, ond fe ddywedodd Cyngor Ceredigion nad oedd unrhyw un ar gael.

Mewn datganiad dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi comisiynu "ymchwiliad annibynnol i edrych ar gwynion ynglŷn ag arweinyddiaeth yr ysgol a honiadau o fwlio, ond hefyd i edrych i weld os oedd bwriad gan gyn-athrawon a rhai presennol i fwlio aelodau o'r uwch dîm rheoli, ac a ydy'r gweithredoedd hyn yn groes i safonau'r Cyngor Gweithlu Addysg".

Ychwanegodd Cyngor Ceredigion: "Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben erbyn diwedd mis Ionawr, ac fe fydd y cyngor yn gweithredu'n unol ag argymhellion yr adroddiad. Fe fydd y Cyngor Sir yn gwneud sylw pellach ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben."

Mewn ymateb, dywedodd undeb yr NASUWT fod datganiad y cyngor yn un "rhyfeddol" ac yn "ymgais gan y cyngor, mae hi'n ymddangos, i fygwth staff sydd wedi dangos y dewrder i godi pryderon".

Mae'r undeb wedi galw ar y cyngor i "gynnal trafodaeth yn hytrach na gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn anodd".

Mewn ymateb i hynny, dywedodd Cyngor Ceredigion: "Rydym yn gweithio yn agos ag undebau dysgu ac yn gwerthfawrogi eu rôl fel eiriolwyr i staff dysgu yn ysgolion Ceredigion.

"Mae datganiad diweddar NASUWT yn hollol anghywir ac nid yw'n adlewyrchu safbwynt y cyngor ynglŷn â'r ymchwiliad mewn i gwynion a wnaed yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.

"Byddwn yn trafod yr ymchwiliad gyda NASUWT yn uniongyrchol."

Mae'r ddau gyn-athro sydd wedi siarad â BBC Cymru wedi galw am newidiadau i'r ffordd mae Ysgol Uwchradd Aberteifi yn cael ei rhedeg.

Dywedodd y cyn-athro sydd am aros yn ddienw: "Mae'n drist bod streic wedi cael ei threfnu... ond o'dd e ar y cardiau am flynyddoedd 'sen i'n dweud."

Yn ôl Guy Manning: "Yn bersonol, dwi ddim yn gallu gwell sut y gall yr ysgol barhau fel mae hi.

"Mae angen newidiadau mawr i'r ffordd mae'r ysgol yn cael ei rhedeg, ac efallai bod hynny yn cynnwys y bobl sydd yn ei rhedeg hi."