Is-ganghellor: 'Wedi fy mhoenydio yn feddyliol'
- Cyhoeddwyd
Mae is-ganghellor Prifysgol Abertawe, sydd wedi ei wahardd dros dro, wedi ysgrifennu llythyr at ei gyflogwyr yn cwyno am ei driniaeth ac yn dweud y bydd yn brwydro i adfer ei enw da.
Mewn llythyr sydd wedi ei weld gan BBC Cymru dywed yr Athro Richard Davies ei fod wedi ei "boenydio yn feddyliol" a bod ei iechyd a'i enw da wedi eu niweidio am byth.
Deëllir fod y penderfyniad i atal yr Athro Davies a thri aelod arall o staff y brifysgol o'u gwaith wedi ei gysylltu â phrosiect gwerth £200m yn Llanelli, prosiect Llynnoedd Delta.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod y gwaharddiadau yn dilyn ymchwiliad mewnol "eang a thrwyadl" a bod yr ymchwiliad hwnnw yn parhau.
Yn y llythyr 10 tudalen mae'r Athro Davies yn achwyn am Gofrestrydd ac is-ganghellor dros dro'r brifysgol, Andrew Rhodes a hefyd aelodau o Gyngor y Prifysgol, gan gynnwys y cadeirydd, Syr Roger Jones.
Mae'r Athro Davies yn anhapus gyda'r modd y cafodd ymchwiliad i honiadau yn ei erbyn ei gynnal, ac mae'n honni fod yr ymchwiliad wedi mynd yn groes i reolau a chôd ymddygiad sefydliadau cyhoeddus.
'Dim rhybudd'
Mae'n dweud ei fod wedi cael ei hebrwng o'r campws gan y pennaeth diogelwch ar ôl cael gwybod am ei waharddiad.
"Daeth y gwaharddiad heb unrhyw rybudd ac felly roeddwn i heb baratoi yn ymarferol nac yn feddyliol am y canlyniadau," meddai.
"Er enghraifft, nid oedd gennyf ffôn symudol personol, dim rhifau ffôn pobl, gan gynnwys y rhai oedd wedi eu rhestru yn y llythyr oedd yn fy ngwahardd. Nid oedd gennyf chwaith gyfrifiadur na chyfrif e-bost."
Mae o'n honni iddo gael ei wahardd yn wreiddiol rhag cael mynediad i'w gartref, sy'n eiddo i'r brifysgol, heb fod rhywun yn ei hebrwng - er i'r penderfyniad yna gael ei newid yn ddiweddarach.
Hefyd yn ei lythyr dywed yr Athro Davies fod y ffaith i'r newyddion ddod yn wybodaeth gyhoeddus wedi "dinistrio fy enw da yn rhyngwladol".
"Mae wedi cael effaith negyddol enfawr ar fy iechyd meddwl, ac iechyd meddwl fy nheulu," meddai.
Dywedodd fod cael ei atal rhag cael cyswllt gyda gweithwyr y brifysgol wedi ei adael "yn unig, heb unrhyw rwydwaith i'w gefnogi na modd o gysylltu".
Ychwanegodd fod ei wahardd rhag cael cysylltiad heb drefniant o flaen llaw gyda rhanddeiliaid y brifysgol - sy'n cynnwys canolfannau iechyd dan gytundeb i gefnogi myfyrfwyr meddygol y brifysgol - wedi cael effaith ar ei barodrwydd i geisio apwyntiad gyda meddyg teulu.
Mae hefyd yn codi cwestiwn am drefniandau newydd rôl y cofrestrydd Andrew Rhodes, gan ddweud bod penderfyniad y Cyngor i "grynhoi gymaint o rym yn nwylo un person" yn "annheg".
'Goblygiadau hirdymor'
Dywedodd fod yna wrthdaro buddiannau wrth i Mr Rhodes - cyn was sifil wnaeth ymuno â'r brifysgol yn Ebrill 2018 - ei wahardd o'i swydd ac yna gamu i rôl dirprwy ganghellor am gyfnod dros dro.
Yn ogystal â'i bryderon am ei iechyd personol mae llythyr yr Athro Davies hefyd yn codi pryderon bod "niwed" wedi ei achosi i'r brifysgol.
"Mae atal is ganghellor prifysgol, sefydliad sydd yn rhoi lle amlwg i waith ymchwil, yn ddigynsail yn fy ngof i ," meddai'r llythyr.
Mae'n ychwanegu: "Rwy'n cael fy mhoenydio yn feddyliol gan yr adroddiadau bron yn ddyddiol yn y cyfryngau drwy fod yn dyst i'r difrod mae hyn yn ei wneud i'r brifysgol rwy'n ei charu, ac mae yna oblygiadau hirdymor i sefydlogrwydd ariannol, diogelwch swyddi'r staff, a gallu'r brifysgol i roi budd economaidd a budd o ran iechyd i bobl y rhanbarth."
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod y gwaharddiadau yn dilyn ymchwiliad mewnol eang a thrwyadl.
"Mae [yr ymchwiliad] yn parhau i fynd rhagddo, felly ni fyddai'n briodol i wneud sylw manwl ar hyn o bryd, ond mae'r brifygol bob amser wedi ufuddhau i'w reolau a chanllawiau, a chynnig cymorth priodol i'r Athro Davies."
Mewn ymateb i'r honiad ynghylch gorfod gadael ei gartref, dywedodd y llefarydd bod yr Athro Davies "wedi dynodi ei fod ef a'i deulu wedi gadael yr eiddo yn haf 2018".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2018