Valero wedi'u gorchymyn i gau dwy bibell yn Aberdaugleddau

  • Cyhoeddwyd
Purfa ValeroFfynhonnell y llun, Geograph/Dylan Moore
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth olew lifo i'r aber ger purfa Valero yn Aberdaugleddau ym mis Rhagfyr

Mae cwmni Valero wedi cael eu gorchymyn i gau dwy bibell olew ar ei safle yn Sir Benfro.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod y gorchymyn ar ôl i rhwng 7,500 a 10,000 o litrau o olew lifo i'r aber ger eu purfa yn Aberdaugleddau ym mis Rhagfyr.

Ni fydd y ddwy bibell yn cael eu defnyddio nes bydd CNC yn fodlon eu bod yn gallu cael eu defnyddio heb niweidio'r amgylchedd.

Dywedodd Valero ei bod yn "parhau i gynorthwyo'r cyd-asiantaethau yn y porthladd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhwystrau wedi cael eu gosod er mwyn amddiffyn traethau ger y burfa

Dywedodd llefarydd ar ran CNC bod y gwaharddiad wedi'i osod "yn dilyn achosion o lygredd wnaeth effeithio ar ddŵr, tir a bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir ym mis Rhagfyr ac wythnos gyntaf Ionawr".

Ers y llygredd mae cyrch gan gyd-asiantaethau wedi'i drefnu i geisio glanhau'r arfordir yn Aberdaugleddau, wrth i CNC, Cyngor Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro fonitro'r sefyllfa.

Yn y datganiad mae CNC hefyd yn cadarnhau fod y llygredd olew dan reolaeth.

Dywedodd Rheolwr Gweithredol CNC, Andrea Winterton mai'r brif flaenoriaeth yw diogelu dyfroedd Cymru, a'u bod wedi ymateb yn syth i geisio diogelu'r bywyd gwyllt.

"Mae ymateb sydyn gan asiantaethau gwahanol wedi helpu lleihau'r effaith yn yr ardal," meddai Ms Winterton.

"Mae Valero eisoes wedi gweithredu i geisio lleihau effaith pellach ac maen nhw'n cydweithredu wrth ein hymchwiliad barhau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Maritime and Coastguard Agency
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r awyr yn dangos gweddillion yr olew yn gwasgaru trwy'r môr

Dywedodd llefarydd ar ran Valero: "Yn dilyn gorchymyn gan CNC i'm gwahardd rhag defnyddio dwy bibell olew ym Mhurfa Penfro, mae Valero yn parhau i gynorthwyo'r cyd-asiantaethau yn y porthladd.

"Nid yw pibellau eraill Valero wedi'i effeithio ac mae'r capasiti gweithredol yn parhau heb eu heffeithio. Mae gweithwyr arbenigol wedi'i anfon i'r traethau i leihau'r effaith.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r asiantaethau i fonitro a gwarchod yr amgylchedd. Prif flaenoriaeth Valero yw diogelwch a lles ein gweithwyr, contractwyr a chymunedau."