Cwest Meirion James: Diffyg cofnodion yn 'groes i reolau'

  • Cyhoeddwyd
Meirion JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mr James tra'i fod yn y ddalfa yn Hwlffordd

Mae cyn-heddwas wedi dweud wrth gwest ei fod wedi gweithredu yn groes i ganllawiau cyfreithiol yn achos dyn o Sir Benfro a fu farw yn y ddalfa.

Bu farw Meirion James, 53 oed o Grymych, ar 31 Ionawr ar ôl i swyddogion yn Hwlffordd ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau ac offer chwistrellu er mwyn ei atal.

Ddydd Mawrth clywodd y cwest fod Mr James, oedd yn dioddef o iselder a salwch meddwl, wedi ei arestio am y tro cyntaf ar 30 Ionawr a'i gymryd i orsaf yr heddlu yn Aberystwyth.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Jules Michael Evans, cyn-sarjant oedd yng ngofal gorsaf Aberystwyth, nad oedd wedi cofnodi manylion Mr James yn llawn pan gyrhaeddodd y ddalfa.

Dywedodd Mr Evans nad oedd yn ymwybodol fod Mr James wedi ei arestio o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar 30 Ionawr.

Ychwanegodd nad oedd wedi cwblhau record lawn o gyfnod Mr James yn y ddalfa, oherwydd ei fod wedi trin y digwyddiad fel achos meddygol brys unwaith iddo gael gwybod bod Mr James wedi cymryd nifer o dabledi.

Wedi hynny, aed â Mr James yn syth i Ysbyty Bronglais, ac yna cafodd ei ryddhau o ofal yr heddlu.

'Yn groes i'r rheolau'

Roedd Mr James wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanrhystud, a dywedodd y cyn-sarjant ei fod wedi cymryd pedwar swyddog i arestio Mr James, a bod parafeddygon wedi gwrthod ei gludo mewn ambiwlans oherwydd ei ymddygiad bygythiol.

Clywodd y cwest yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, erbyn iddo gyrraedd gorsaf Aberystwyth bod Mr James wedi tawelu, a dweud ei fod wedi cymryd gorddos.

Fe wnaeth y cyn-blismon gyfadde' fod ei benderfyniad i beidio â chadw record lawn yn y ddalfa yn groes i'r rheolau.

Dywedodd ei fod yn rhan o'i "steil" i beidio cymryd nodiadau'n syth wrth ddelio â phobl oedd o bosib yn gallu bod yn ymosodol.

Ychwanegodd ei fod yn ceisio cynnal "ychydig o sgwrs" yn hytrach na throi yn syth at "gofnodi manylion".

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd cyfreithiwr ar ran teulu Mr James, Mr Rajiv Menon, fod yna drefn benodol ar gyfer trin rhywun sydd wedi ei arestio o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Byddai hynny, meddai, wedi arwain at asesiad meddygol o Mr James.

Pan ofynnwyd eto i Mr Evans am ei benderfyniad i beidio cofnodi record lawn, dywedodd hyd yn oed pe bai'n gwybod fod Mr James wedi ei arestio dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, y byddai dal wedi ei anfon yn syth i'r ysbyty.

Dywedodd Mr Menon er nad oedd y plismon wedi cofnodi'r digwyddiad yn iawn, roedd yn canmol ei benderfyniad i anfon Mr James i'r ysbyty.

Ddydd Llun clywodd y cwest fod Mr James wedi ei arestio unwaith eto ar 31 Ionawr ar ôl ymosod yn gorfforol ar ei fam.

Aed ag ef i orsaf yr heddlu yn Hwlffordd.

Clywodd y cwest iddo redeg at blismon ac i swyddogion yno geisio ei atal gan ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau ac offer chwistrellu.

Aeth yn anymwybodol ac er gwaethaf ymdrechion i'w adfywio bu farw'n ddiweddarach.

Mae'r cwest yn parhau.