Cwest Hwlffordd: 'Chwistrell bupur wedi'i defnyddio'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod chwistrell bupur wedi ei defnyddio gan swyddogion heddlu er mwyn rheoli dyn fu farw yn y ddalfa.
Bu farw Meirion James, 53 oed o Grymych yn Sir Benfro, ar 31 Ionawr 2015 yn y ddalfa yn Hwlffordd.
Cafodd Mr James ei arestio yn dilyn digwyddiad yn ei gartref yn gynharach yn y diwrnod.
Dywedodd y crwner bod Mr James wedi ymddwyn yn fygythiol ac wedi ymosod yn gorfforol ar ei fam, ac ar ôl galw'r heddlu, cafodd ei arestio a'i gludo i orsaf heddlu Hwlffordd.
Y bore hwnnw cafodd archwiliad meddygol ei gynnal ac fe benderfynwyd ei fod yn ddigon iach i'w gadw yn y ddalfa.
Wrth i swyddogion ymweld â'i gell am tua 11:00, clywodd y cwest bod Mr James wedi rhedeg allan i'r coridor.
Fe geisiodd y swyddogion gadw Mr James dan reolaeth ac fe gafodd chwistrell bupur ei defnyddio.
Ychwanegodd y cwest bod Mr James wedi mynd yn anymwybodol ac er gwaethaf ymdrechion i'w adfywio, bu farw am 11.30 yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Clywodd y cwest fod y cyn-athro wedi dioddef o iselder yn ystod yr 80au, ac er i'w gyflwr meddyliol waethygu ar adegau, roedd wedi bod yn sefydlog ers canol y 90au.
'Ymddygiad ymosodol'
Diwrnod cyn ei farwolaeth fe gafodd Mr James ei gludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad car.
Dywedodd y swyddog heddlu Mike Boyt, a ymatebodd i'r gwrthdrawiad, fod Mr James yn gorwedd ar y llawr yn gwneud synau ac yn ymddwyn yn ymosodol pan gyrhaeddodd ef safle'r digwyddiad.
Clywodd y cwest bod yr ambiwlans oedd yn cludo Mr James wedi gorfod stopio oherwydd pryderon am ei ymddygiad ymosodol, ac felly roedd rhaid i swyddogion heddlu fynd ag ef i ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Dywedodd y swyddog James Crabbe ei fod wedi dweud wrth fam Mr James am y digwyddiad a'i bod hi wedi sôn bod cyflwr meddyliol ei mab wedi dirywio ers iddo newid ei feddyginiaeth.
Mae disgwyl i'r cwest bara tan 25 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2015