AS Ceidwadol o Gymru yn gwisgo camera corff i'w ddiogelu
- Cyhoeddwyd
Mae AS Trefynwy, y Ceidwadwr David TC Davies, wedi dechrau gwisgo camera corff oherwydd y lefel uchel o fygythiadau geiriol tuag at Aelodau Seneddol.
Dywedodd Mr Davies, sydd o blaid Brexit, ei fod yn gwisgo'r ddyfais oherwydd "diogelwch a'r gallu i gasglu tystiolaeth".
Mae o leiaf 115 o Aelodau Seneddol o bleidiau gwahanol wedi codi pryderon ynglŷn â pha mor chwerw ydi'r drafodaeth ar Brexit, ac ymddygiad rhai protestwyr y tu allan i'r Senedd yn Llundain.
Daw hyn ar ôl i nifer o brotestwyr gyhuddo Anna Soubry, AS Ceidwadol sydd am weld ail refferendwm, o fod yn Nazi tra'i bod yn cael ei holi gan y BBC.
'Bygythiadau maleisus'
Yn ôl Mr Davies y digwyddiad gyda Ms Soubry oedd y diweddara mewn cyfres o ymosodiadau geiriol tuag at Aelodau Seneddol ar naill ochr y ddadl Brexit.
"Rwyf wedi diodde' bygythiadau a honiadau maleisus. Mae wedi bod yn digwydd am amser hir," meddai.
"Felly mae'r camera yma i'm diogelu ac er mwyn casglu tystiolaeth.
"Rwyf wedi cael baneri yn cael eu stwffio o flaen fy wyneb a phobl yn honni fy mod i wedi cydio ynddynt."
Mae AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, hefyd wedi mynegi pryder am y sefyllfa.
Mae o wedi llunio cylchlythyr sydd wedi ei arwyddo gan dros 60 o ASau yn galw am fwy o ddiogelwch ar gyfer aelodau, ymgyrchwyr, newyddiadurwyr ac aelodau'r cyhoedd y tu allan i'r senedd.
"Mae yna bryder fod y sefyllfa wedi dirywio yn yr wythnosau diwethaf a nawr rydym yn croesi'r ffin yna sy'n bodoli rhwng yr hawl i fynegi barn a gwneud bygythiadau, aflonyddu ac o bosib troseddu.
"Ni allwn ganiatáu i'r llinellau yma gael eu croesi oherwydd fe all arwain at niwed difrifol, fel llofruddiaeth fy ffrind Jo Cox."
Ychwanegodd: "Mae o hefyd yn israddio ein democratiaeth ac o bosib ni fydd pobl am ddilyn gyrfa wleidyddol."
Mae llefarydd Tŷ'r Cyffredin, John Bercow, wedi ysgrifennu llythyr at bennaeth Heddlu'r Met yn mynegi ei bryderon am y sefyllfa.
Dywedodd yr heddlu y byddant yn ymateb yn gadarn i unrhyw achos o aflonyddu troseddol.
Ychwanegodd y bydd mwy o blismyn ar ddyletswydd yn yr ardal wrth i Dŷ'r Cyffredin baratoi ar gyfer pleidlais ar gytundeb Brexit Theresa May yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019