AC Llafur yn dychwelyd wedi sylwadau 'gwrth-Iddewig'

  • Cyhoeddwyd
Jenny Rathbone

Mae AC Llafur gafodd ei chyhuddo o wneud sylwadau "sarhaus" am bobl Iddewig wedi ailymuno â grŵp y blaid yn y Cynulliad wrth i ymchwiliad barhau.

Cafodd Jenny Rathbone ei recordio yn awgrymu bod pryderon Iddewon yng Nghaerdydd am eu diogelwch wedi eu "creu yn eu pennau".

Fe wnaeth Ms Rathbone ymddiheuro am ei sylwadau, ond cafodd ei gwahardd ym mis Tachwedd llynedd wrth i'r blaid gynnal ymchwiliad.

Mae BBC Cymru yn deall fod y penderfyniad i adael iddi ailymuno â'r grŵp wedi ei wneud llynedd, er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai o ACau'r blaid.

Dwy wedi gwrthwynebu

Cafodd papur y Jewish Chronicle afael ar recordiad o Ms Rathbone yn gwneud sylwadau yn 2017 am fesurau diogelwch ychwanegol yn synagog Cyncoed yng Nghaerdydd.

Yn y recordiad dywedodd AC Canol Caerdydd: "Mae'r ffaith fod y synagog Iddewig yng Nghyncoed yn dod yn gaer yn syniad anghysurus iawn.

"Mae faint ohono sy'n angenrheidiol a faint ohono sydd wedi cael ei chwyddo a'i greu yn eu pennau yn anodd ei feirniadu gan rywun o'r tu allan, ond dwi'n meddwl bod y meddylfryd o fod dan warchae yn rhan ohono."

Cafodd ei sylwadau eu disgrifio gan y Rabbi Michael Rose fel rhai "hynod sarhaus".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y cyn-brif chwip, Julie James argymell y dylid gadael i Jenny Rathbone ailymuno

Mae BBC Cymru yn deall fod y penderfyniad i ganiatáu i Ms Rathbone ailymuno a'r grŵp Llafur wedi ei gymryd ar ôl i Mark Drakeford gael ei ethol yn arweinydd newydd y blaid yng Nghymru, ond cyn iddo benodi ei gabinet.

Daeth y penderfyniad yn dilyn argymhelliad gan y cyn-brif chwip, Julie James.

Dywedodd un AC Llafur: "Fe gawson ni drafodaeth eitha' hir am y peth, achos dyw e ddim yn dda."

Cafodd Ms Rathbone ei gwahardd o'r grŵp ym mis Tachwedd yn dilyn cyfarfod preifat o ACau Llafur.

Mae BBC Cymru hefyd yn deall bod dwy ohonynt - Julie Morgan a Jane Hutt - wedi gwrthwynebu gwaharddiad Ms Rathbone, ac mae'r ddwy wedi'u penodi i'r llywodraeth ers hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp: "Fe wnaeth Jenny Rathbone ailymuno â'r grŵp ar ddechrau tymor y gwanwyn yn dilyn gwaharddiad o saith wythnos. Mae cwyn wedi ei gyfeirio at blaid Lafur y DU."

Ymddiheuriad

Mewn datganiad y llynedd fe wnaeth Ms Rathbone ymddiheuro am ei sylwadau.

"Rwy'n derbyn bod sylwadau a wnes i llynedd yn ansensitif ac wedi fy ngwneud yn agored i gyhuddiadau fy mod yn anoddefgar," meddai.

"Rwyf wedi gwerthfawrogi'r berthynas dda sydd gennyf gyda'm cymuned Iddewig leol, ac yn ymddiheuro am unrhyw ddrwgdeimlad gafodd ei achosi i etholwyr unigol a'r gymuned Iddewig ehangach gan fy sylwadau.

"Gyda lefelau o wrth-semitiaeth ar gynnydd mewn nifer o wledydd gorllewinol, ac yn dilyn yr ymosodiad difrifol ar synagog Pittsburgh, ni ddylai neb fychanu'r ofnau a phryderon mae nifer o Iddewon yn eu profi.

"Dyw hi ddim chwaith yn dderbyniol i awgrymu bod y gymuned Iddewig yn gyfrifol am weithredoedd Llywodraeth Israel."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr AC Ceidwadol Mohammad Asghar nad oedd gan Lafur "ddiddordeb" mewn ymchwilio'n iawn i sylwadau Ms Rathbone

Ond dywedodd yr AC Ceidwadol, Mohammad Asghar fod y penderfyniad i adael iddi ailymuno yn "codi cymaint o gwestiynau am agwedd y blaid Lafur tuag at ddinasyddion Iddewig ein gwlad".

"Mae hyn yn dangos nad yw Llafur yn poeni am y gymuned Iddewig, y casineb sy'n cael ei gyfeirio atynt, a'u pryderon diogelwch," meddai.

"A yw hi'n gyd-ddigwyddiad bod Ms Rathbone wedi cefnogi arweinyddiaeth Mark Drakeford ac unwaith iddo ennill, ei bod hi yn dychwelyd?"