AC Llafur yn ymddiheuro am sylwadau 'gwrth-semitaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae AC Llafur wedi dweud ei bod "yn wirioneddol flin" am awgrymu bod pryderon Iddewon yng Nghaerdydd am eu diogelwch wedi eu "creu yn eu pennau".
Cafodd papur y Jewish Chronicle afael ar recordiad o Jenny Rathbone yn gwneud y sylwadau mewn sesiwn holi ac ateb yng Nghaerdydd y llynedd.
Mae arweinwyr Iddewig wedi dweud bod y sylwadau'n "anfaddeuol".
Fe wnaeth Ms Rathbone gydnabod bod ei sylwadau'n "ansensitif" ac "annerbyniol", ac mae hi wedi trefnu mynychu sesiynau ar gydraddoldeb.
Sylwadau ar dâp
Wrth ymateb i gwestiwn am fesurau diogelwch ychwanegol yn synagog Cyncoed, dywedodd Ms Rathbone: "Dwi'n meddwl ei fod ynghlwm â'r methiant i gyrraedd cytundeb heddychlon rhwng Palestina ac Israel.
"Dwi'n meddwl bod ymddygiad Llywodraeth Israel wrth feddiannu tiroedd Palestina [sain aneglur] ac ymddwyn fel gorchfygwr yn gyffredinol yn ffafriol i heddwch.
"A dwi'n meddwl mai dyna sy'n arwain pobl i fod yn elyniaethus tuag at y gymuned Iddewig yn y wlad yma."
Dywedodd hefyd: "Mae'r ffaith fod y synagog Iddewig yng Nghyncoed yn [sain aneglur] gaer yn syniad anghysurus iawn.
"Mae faint ohono sy'n angenrheidiol a faint ohono sydd wedi cael ei chwyddo a'i greu yn eu pennau yn anodd ei feirniadu gan rywun o'r tu allan, ond dwi'n meddwl bod y meddylfryd o fod dan warchae yn rhan ohono."
Ymddiheuriad
Wrth ymddiheuro ddydd Mercher, dywedodd Ms Rathbone: "Rwy'n derbyn bod sylwadau a wnes i llynedd yn ansensitif ac wedi fy ngwneud yn agored i gyhuddiadau fy mod yn anoddefgar.
"Rwyf wedi gwerthfawrogi'r berthynas dda sydd gennyf gyda'm cymuned Iddewig leol, ac yn ymddiheuro am unrhyw ddrwgdeimlad gafodd ei achosi i etholwyr unigol a'r gymuned Iddewig ehangach gan fy sylwadau.
"Gyda lefelau o wrth-semitiaeth ar gynnydd mewn nifer o wledydd gorllewinol, ac yn dilyn yr ymosodiad difrifol ar synagog Pittsburgh, ni ddylai neb fychanu'r ofnau a phryderon mae nifer o Iddewon yn eu profi.
"Dyw hi ddim chwaith yn dderbyniol i awgrymu bod y gymuned Iddewig yn gyfrifol am weithredoedd Llywodraeth Israel."
Dywedodd Stanley Soffa, cadeirydd Cynrychiolwyr Iddewig De Cymru bod Ms Rathbone wedi mynychu synagogau yng Nghaerdydd a "derbyn croeso cynnes".
"Mae hi'n adnabod aelodau o'r ddwy gymuned, ond dydw i dal ddim yn synnu i'w chlywed yn gwneud sylwadau o'r fath, ac maen nhw'n ffeithiol anghywir.
"Dydw i ddim yn synnu oherwydd mae nifer o'r sylwadau mae hi wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd wedi cael eu hystyried yn wrth-semitaidd.
"Dyma'r fath o beth sy'n dod ag anfri i'r blaid Lafur ac yn amlygu'r celwydd nad yw gwrth-semitiaeth yn rhemp o fewn y blaid."
Dywedodd Vaughan Gething, un o'r ymgeiswyr yn ras arweinyddol Llafur Cymru: "Mae honni nad yw gwrth-semitiaeth yn broblem yn bychanu ac yn gwadu profiadau go iawn pobl, sydd â'r hawl i ddisgwyl llawer mwy o'r Blaid Lafur.
"Dydw i ddim yn cytuno gyda sylwadau Jenny Rathbone.
"Dydw i ddim yn credu fod mesurau diogelwch ychwanegol o amgylch synagogau yn deillio o 'feddylfryd o fod dan warchae'."
Ychwanegodd un arall o'r ymgeiswyr, Mark Drakeford: "Mae gwrth-semitiaeth yn hollol annerbyniol a does dim lle iddo o gwbl yn y blaid Lafur.
"Roedd sylwadau Jenny Rathbone yn annerbyniol. Mae'n iawn ei bod hi wedi cael ei chyfeirio at y blaid Lafur am ymchwiliad."
'Problem i Carwyn Jones'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros ffydd, Mohammad Asghar, bod y sylwadau yn "ddifeddwl ac yn anwybodus, ac yn diystyru'r bygythiad mae'r gymuned Iddewig wedi ei wynebu".
"Mae'n ymddangos fod y don frawychus o wrth-semitiaeth wedi cyrraedd Cymru, ac nad yw bellach yn broblem i Jeremy Corbyn yn unig, ond mae'n broblem i Carwyn Jones a'i olynydd hefyd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran grŵp y blaid Lafur yn y Cynulliad: "Mae'r sylwadau hyn yn hollol annerbyniol, ac maen nhw wedi cael eu pasio 'mlaen at Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Lafur er mwyn cynnal ymchwiliad.
"Bydd y Brif Chwip nawr yn ystyried pa gamau disgyblu sydd ar gael i'r Grŵp Llafur, ac fe fydd yn cyflwyno'r mater i'r cyfarfod nesaf ddydd Mawrth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2018
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2016