Arriva 'ddim ar fai' am drafferthion trenau yn yr hydref

  • Cyhoeddwyd
Arriva
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Trenau Arriva Cymru redeg y fasnachfraint rhwng 2003 a 2018

Mae cyn-bennaeth Trenau Arriva Cymru wedi dweud nad y cwmni oedd ar fai am drafferthion ar y rhwydwaith drenau llynedd.

Fe wnaeth swyddogion a gweinidogion feirniadu gwaith cynnal a chadw'r cwmni wedi i Drafnidiaeth Cymru, sydd bellach yn rhedeg y gwasanaeth, orfod canslo trenau.

Ond mynnodd Tom Joyner fod Arriva, oedd yn rhedeg y fasnachfraint cyn hynny, wedi gwneud "llawer iawn" o waith i drosglwyddo'r awenau.

Dywedodd un AC nad oedd sylwadau Mr Joyner yn cyd-fynd gyda beth gafodd ei ddweud yn 2018 gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates.

'Proffesiynol iawn'

Llynedd fe wnaeth cwmni KeolisAmey ennill yr hawl i redeg masnachfraint drenau Cymru a'r Gororau, gan ddod â chyfnod Arriva i ben.

Ers mis Hydref mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan gorff Trafnidiaeth Cymru, ond yn fuan wedi dechrau bu'n rhaid iddyn nhw ganslo nifer o drenau oherwydd bod angen atgyweirio chwarter eu trenau.

Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor economi'r Cynulliad ym mis Tachwedd fe wnaeth pennaeth Trafnidiaeth Cymru, James Price, a Mr Skates feio Arriva am beidio â buddsoddi digon yn y trenau yn ystod eu cyfnod nhw.

Fis yn ddiweddarach fe wnaeth un o'r prif weision sifil yng Nghymru gyhuddo Llywodraeth y DU o adael i broblemau gyda threnau Cymru waethygu'n fwriadol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tom Joyner na wnaeth Trafnidiaeth Cymru godi pryderon cyn i'r fasnachfraint gael ei throsglwyddo

Wrth siarad â'r un pwyllgor ddydd Mercher fe wnaeth Bill Kelly o Network Rail, sy'n gyfrifol am lawer o'r isadeiledd, ymddiheuro am "berfformiad annerbyniol yn ystod cyfnod yr hydref".

"Does gan deithwyr ddim diddordeb mewn esgusodion. Maen nhw eisiau gweld gweithredu. Maen nhw eisiau deall," meddai.

Ond dywedodd Mr Joyner fod Arriva wedi gwneud "llawer iawn o waith yn 2018 er mwyn bod mewn safle da i drosglwyddo'r awenau".

"Roedden ni'n benderfynol o drosglwyddo'r fasnachfraint drosodd mewn ffordd broffesiynol iawn i Drafnidiaeth Cymru," meddai.

"Dyw hi ddim yn gywir o gwbl i ddweud bod y trafferthion a gafwyd wedyn o ganlyniad i'r ffordd y cafodd y fasnachfraint ei throsglwyddo."

'Ddim yn deall'

Mewn ymateb dywedodd un o aelodau'r pwyllgor, Bethan Sayed, y dylai Mr Skates roi tystiolaeth bellach i'r pwyllgor er mwyn esbonio'r gwahaniaethau rhwng ei sylwadau ef a rhai Mr Joyner.

"Beth dwi ddim yn deall yw pwy oedd ar fai, a phwy oedd yn mynd i gymryd cyfrifoldeb am beth ddigwyddodd," meddai AC Plaid Cymru.

"Fe glywon ni gan Drenau Arriva Cymru heddiw eu bod nhw'n teimlo eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud cystal ag y gallan nhw.

"Ond fe glywon ni cyn y gwyliau Nadolig nad oedd Arriva mewn gwirionedd wedi perfformio cystal ag y bydden nhw wedi hoffi.

"Dyw hynny ddim fel petai'n wir o ystyried tystiolaeth heddiw."