Pryder am 'ddiffyg eglurder' cwricwlwm newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Addysg
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwricwlwm newydd yn dechrau cael ei gyflwyno mewn ysgolion yn 2022

Gallai addysg rhai disgyblion ddioddef oherwydd diffyg eglurder yng nghwricwlwm newydd Cymru, yn ôl penaethiaid addysg.

Ychwanegodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru bod yna gyfathrebu sâl wedi bod gydag ysgolion o ran datblygiad y newidiadau.

Bydd drafft o'r cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill ac mae disgwyl iddo gael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ac ym mlwyddyn saith yn 2022.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams bod y broses o ddatblygu'r cwricwlwm newydd yn "mynd yn dda".

Cynnwys 'generig'

Mae'r cwricwlwm newydd yn amlinellu'r hyn y bydd plant a phobl ifanc rhwng tair ac 16 oed yn cael eu dysgu, a'r bwriad yw datblygu'r ffordd y mae pynciau gwahanol yn cael eu dysgu.

Mewn dogfen gafodd ei gyflwyno i Aelodau Cynulliad, dywedodd penaethiaid addysg bod gormod o gynnwys y cwricwlwm newydd yn "generig" ac yn "wan o ran gwybodaeth a datblygu sgiliau".

"O ganlyniad, mae hi'n debygol y bydd gwybodaeth, dealltwriaeth a datblygiad sgiliau rhai disgyblion yn dioddef," meddai'r ddogfen.

Ychwanegodd mai'r disgyblion hynny sydd heb gefnogaeth deuluol gryf yw'r rhai mwyaf tebygol o golli allan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sylwadau'n dangos diffyg dealltwriaeth o gynnwys y cwricwlwm newydd, yn ôl Kirsty Williams

Mae ysgolion a swyddogion wedi bod yn gweithio ar gynnwys y chwe maes dysgu sy'n rhan o'r cwricwlwm ond mae rhai pryderon wedi cael eu hamlygu.

Er enghraifft, wrth drafod ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mae'r ddogfen yn nodi: "Mae yna nifer o themâu mawreddog sydd i'w weld yn cymryd lle hanfodion datblygu iaith - siarad, darllen a 'sgwennu."

Mae'r ddogfen yn fwy cadarnhaol ynglŷn â'r cynnydd ym maes mathemateg a rhifedd, gan nodi mai dyma'r maes sydd wedi ei "lunio orau".

Yn ogystal â chynnwys y pynciau unigol, mae'r ddogfen hefyd yn amlygu pryderon am bwysau gwaith athrawon.

"Mae sawl arbenigwr wedi eu cyffroi gan y diwygiadau i'r cwricwlwm... ond y gwirionedd yw mai'r athrawon fydd yn gorfod gwneud i'r newidiadau weithio ar lawr gwlad," meddai'r ddogfen.

Mae'n honni fod y cyfathrebu rhwng ysgolion ac athrawon ynglŷn â'r datblygiadau yn "parhau i fod yn wan, er bod rhai gwelliannau wedi bod".

Mae'n ychwanegu: "O ganlyniad i'r holl newidiadau yn y system, mae'r potensial yno i benaethiaid ac athrawon golli gafael ar yr hyn sydd wir yn bwysig - addysgu'r plant."

'Diffyg dealltwriaeth'

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a'r Pwyllgor Addysg ddydd Iau, dywedodd Ms Williams fod ymateb y penaethiaid addysg yn "siomedig" ac yn seiliedig ar hen wybodaeth.

Ychwanegodd bod sawl cyfle wedi bod iddyn nhw fynegi eu pryderon, ond nad oedden nhw wedi gwneud hynny.

"Rydw i'n pryderu bod yr hyn sydd yn cael ei awgrymu ar gyfer y cynnwys... yn mynd yn groes i'r hyn yr ydyn ni'n gobeithio ei gyflawni gyda'r cwricwlwm newydd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod rhywfaint o'r dystiolaeth yn dangos "diffyg dealltwriaeth gyffredinol o'r newidiadau".

"Mae nifer o'r sylwadau wedi galw am barhau gyda chwricwlwm sydd yn gul ac yn rhy brysur... mae hyn yn mynd yn erbyn ein diwygiadau ni, a'r hyn y mae ein plant a'n hathrawon yn haeddu," meddai.

"Mae mwyafrif yr adborth yr ydyn ni wedi ei dderbyn gan y rhai sy'n ymwneud â llunio'r cwricwlwm wedi bod yn gadarnhaol, ac yn awgrymu ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sian Gwenllian mae angen i'r llywodraeth ymateb i'r pryderon sydd wedi'u hamlygu

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Sian Gwenllian, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos sut yn union y maen nhw'n bwriadu ymateb i'r pryderon cynyddol am y cwricwlwm newydd.

"Mae yna bryderon nid yn unig am ddiffyg cynnydd o ran datblygiad cwricwlwm Donaldson ond hefyd ynglŷn â'i gynnwys," meddai.

"Mae'r ymateb yn awgrymu i mi fod angen i'r Gweinidog Addysg roi sylw llawn i'r mater... ond dwi'n ofni ei bod hi'n rhy hwyr gan fod y drafft yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

"Unwaith eto mae'r Llywodraeth Llafur Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gadael pobl Cymru i lawr."