Prif weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James i ymddeol

  • Cyhoeddwyd
mark jamesFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark James wedi bod yn brif weithredwr Cyngor Sir Gâr ers 2002

Mae prif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o'i swydd ym mis Mehefin wedi 17 mlynedd.

Dywedodd Mark James, sydd wedi bod yn y swydd ers 2002, ei fod yn "amser nawr i drosglwyddo'r awenau".

Cafodd ei ddisgrifio gan arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, fel "arweinydd a llysgennad gwych i Sir Gaerfyrddin".

Ond doedd cyfnod Mr James wrth y llyw ddim yn ddi-ffwdan, gydag achos enllib yn erbyn blogiwr yn ogystal â ffrae dros daliadau pensiwn yn cyrraedd y penawdau.

Achos enllib

Yn 2013 fe enillodd Mr James achos enllib yn erbyn dynes o Sir Gâr, Jacqui Thompson, yn dilyn sylwadau gafodd eu gwneud amdano ar ei blog.

Cafodd Ms Thompson orchymyn i dalu iawndal o £250 y mis dros gyfnod o 10 mlynedd, neu byddai'n rhaid iddi werthu ei thŷ.

Ond bu'n rhaid i Mr James gamu o'r neilltu dros dro fel prif weithredwr yn 2014 wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i'r ffaith bod y cyngor wedi talu costau cyfreithiol yr achos.

Fe ddyfarnodd Swyddfa Archwilio Cymru bod y cyngor wedi ymddwyn yn anghyfreithlon wrth addo talu'r ffioedd yma.

Yn 2017 fe wrthododd Mr James ddweud a fyddai'n anrhydeddu ei addewid i ad-dalu arian i'r awdurdod.

Cafodd hefyd wrthwynebiad gan wleidyddion Plaid Cymru a Llafur yn Sir Gâr yn 2015 wedi iddo wneud cais i adael yr awdurdod dan gynllun diswyddo.

Y flwyddyn cyn hynny roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dyfarnu bod y cyngor wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr James ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr achos gyda'r blogiwr Jacqui Thompson rygnu ymlaen am flynyddoedd

Wrth gyhoeddi ei ymadawiad, dywedodd Mr James fod y cyngor "wedi cyflawni cymaint" yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, gan gynnwys adfywio canol tref Caerfyrddin, buddsoddi mewn ysgolion a thai, ac adnewyddu Parc y Scarlets.

"Mae wedi bod yn bleser cael bod yn rhan o'r adfywiad cyffrous hwn yn ein sir," meddai.

"Hoffwn dalu teyrnged i'r cynghorwyr lawer sydd wedi helpu i lywio'r rhaglen ddatblygu hon a diolch iddynt am eu cefnogaeth a'u ffydd."

'Ymroddiad diflino'

Dywedodd arweinydd y cyngor, Mr Dole: "Mae Mark wedi bod yn arweinydd a llysgennad gwych i Sir Gaerfyrddin.

"Mae wedi cyflawni cymaint yn ei amser fel prif weithredwr a byddwn yn ei golli yn fawr iawn.

"Rwyf am ddiolch iddo am ei ymroddiad diflino i'r sir ac am ei waith di-baid i adfywio Sir Gaerfyrddin.

"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr iawn bopeth y mae wedi'i wneud yn ystod yr 17 mlynedd diwethaf."