Aaron Ramsey i ymuno â Juventus ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
Aaron RameyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae chwaraewr canol cae Cymru ac Arsenal, Aaron Ramsey, wedi cytuno i ymuno â Juventus ar ddiwedd y tymor.

Mae cytundeb Ramsey ag Arsenal yn dod i ben yn yr haf, ac felly mae hawl ganddo adael y clwb am ddim.

Nid yw'r Cymro wedi arwyddo'r cytundeb terfynol eto, ond mae wedi dod i gytundeb gyda Juventus ar gyflog wythnosol o dros £400,000.

Ramsey fydd y chwaraewr Prydeinig sydd ar y cyflog sylfaenol uchaf erioed.

Fe wnaeth Ramsey, sydd wedi bod gydag Arsenal ers 11 mlynedd, basio prawf meddygol ym mis Ionawr.

Yn ôl adroddiadau roedd gan rhai o glybiau mwyaf Ewrop - gan gynnwys Real Madrid a Bayern Munich - ddiddordeb yn ei arwyddo.

Ymunodd ag Arsenal o Glwb Pêl-droed Caerdydd yn 2004 am ffi o £4.8m.

Ef yw'r chwaraewr sydd wedi treulio'r cyfnod hiraf gyda'r clwb, ac fe sgoriodd goliau buddugol yng Nghwpan FA Lloegr yn 2014 a 2017.

Mae wedi chwarae dros 250 o gemau i'r clwb ac wedi sgorio 52 o goliau hyd yn hyn.