Busnesau Abertawe'n gobeithio am adfywiad i ganol y ddinas
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau yn Abertawe yn dweud eu bod yn obeithiol y bydd ailddatblygiad enfawr yn rhoi hwb mawr i ganol y ddinas.
Bydd ardaloedd fel Canolfan Dewi Sant a Ffordd y Brenin yn cael bywyd newydd o dan y cynlluniau, ac mae disgwyl adrannau adwerthu ac arena ddigidol gyda lle i fwy na 3,000 o bobl hefyd.
Mae datblygiadau eraill yn cynnwys parc arfordirol a gwesty newydd, a phont lydan newydd dros Heol Ystumllwynarth i gysylltu safle'r arena gyda'r brif ardal siopa.
Os bydd yr holl waith yn mynd yn ei flaen, mae un busnes, wnaeth adael canol y ddinas ym mis Medi 2018, yn dweud y byddan nhw'n ystyried dychwelyd.
Llu o siopau gwag
"Dyw canol y ddinas ddim yn apelio'n fawr iawn ond mae'r holl waith maen nhw'n gwneud yn swnio'n grêt," meddai Georgia Herbert, fu'n rhedeg The Crepe Vine am chwe blynedd.
"Yn anffodus i ni doedd e ddim yn ddigon cyflym.
"Mewn dwy flynedd, pan mae e gyd wedi gorffen, os rydyn ni'n gallu dod o hyd i adeilad ac os bydd yr arian 'da ni, efallai dewn ni nôl."
Caeodd unig safle siop goffi Starbucks ynghanol y ddinas y llynedd ac mae yna lu o siopau gwag yn yr ardal.
Un ardal sydd wedi ei chael hi'n anodd iawn dros y degawd diwethaf yw Ffordd y Brenin, gyda bywyd nos y ffordd yn diflannu a nifer o siopau gwag.
Mae nifer yn rhoi'r bai ar y system ffordd ddadleuol gafodd ei mabwysiadu yn 2009. Cafodd ei dileu yn 2015 yn dilyn dwy farwolaeth a nifer o anafiadau.
Mae Della Harries, sydd â stondin yn y farchnad, yn cofio "dyddiau da" ble roedd "pawb yn joio'r cyfleuster o ddod mewn i Abertawe".
"Ond yn anffodus maen nhw'n tynnu popeth mas o Abertawe nawr," meddai.
"Mae'n dawel iawn, dyw pobl ddim yn dod mewn i Abertawe fel o' nhw, 'smo fe'n gyfleus i nhw."
'Marw ar ei thraed'
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar gael ffordd dwy lôn, gyda phalmentydd lletach i bobl, llwybrau beicio gwell a gwyrddni - ar gost o £12m.
Mae arweinydd Cyngor Sir Abertawe, Rob Stewart, wedi dweud yn y gorffennol bod canol y ddinas yn "marw ar ei thraed", ond mae'n gobeithio y bydd gwaith ailddatblygu yn rhoi bywyd newydd i'r ardal.
"Rydym ni on course gyda datblygiad Ffordd y Brenin," meddai. "Mae'n cael effaith positif iawn ar fuddsoddiad. Mae nifer o adeiladau mawr wedi newid perchnogaeth a 'da ni'n bwriadu ail osod unedau siopa a llety.
"Mae buddsoddiad ar draws y ddinas yn rhan o'r strategaeth. Mae yna lawer o botensial yn Abertawe. Mae'n rhaid i ni greu'r cyfuniad o bobl yn gweithio, siopa a mwynhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2015