Gwrthdrawiad angheuol ym Maerdy, Rhondda
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu ei galw wedi i gerbyd fwrw'n erbyn fan oedd wedi parcio toc wedi 8:30
Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Maerdy, Rhondda, fore Sul.
Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Oxford toc wedi 08:30 ar ôl i fan Ford Transit daro fan Iveco Daily oedd wedi parcio ar ochr y stryd.
Bu farw gyrrwr 73 oed y Ford Transit yn syth wedi'r gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu'n apelio i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y fan yn teithio ar hyd y stryd i gysylltu gyda nhw.