Bwriad i ddod â chymorth bwydo o'r fron i ben yn 'drasiedi'
"Heb y gwasanaeth yma fyddwn i heb allu bronfwydo fy mab," meddai Sioned Davies
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynllun "amhrisiadwy" sy'n helpu mamau yn y gogledd i fwydo o'r fron ddod i ben fis nesaf.
Dechreuodd y cynllun peilot yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn 2021 a'i ymestyn i Ysbyty Glan Clwyd yn 2023.
Ond mae wedi dod i'r amlwg fod staff wedi cael gwybod y bydd eu cytundebau yn dod i ben fis Mawrth.
Mae cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb i achub y gwasanaeth, ac mae un fam wnaeth elwa o'r cynllun wedi dweud y byddai cael gwared arno yn "drasiedi".
Dywedodd llefarydd ar ran bwrdd iechyd y gogledd eu bod yn edrych ar "gynlluniau hirdymor ar gyfer y gwasanaeth".
'Amser mor fregus'
Ysbyty Maelor Wrecsam oedd y cyntaf yng Nghymru i dreialu cynllun oedd yn rhoi tîm bwydo babanod ar waith o fewn yr uned famolaeth dan arweiniad bydwragedd.
Mae Sioned Davies, 40, mam i ddau o blant o Lanferres Sir Ddinbych, yn dweud fod y gwasanaeth wedi bod yn "hollbwysig" iddi ar ôl i'w hail blentyn gael ei eni chwe wythnos yn gynnar.
"O'r munud gath o ei eni pan o'n i'n gorfod expressio fy hun ac wedyn symud ymlaen i ddefnyddio pwmp ac wedyn i allu bwydo Morgan fydde gen i ddim syniad o sut i wneud hynny - y pethau ymarferol hynny, sut i 'neud o'n saff a be oedd ore i Morgan."

Sioned Davies, gyda'i phlant a'i gŵr, Mathew
Ychwanegodd: "Natho nhw wario gymaint o amser efo fi ar y pryd hynny i lywio y daith.
"A dim yn unig y ffordd ymarferol ond hefyd y gefnogaeth emosiynol oedden nhw'n ei roi, a'r gefnogaeth seicolegol i ddeud y gwir.
"Achos mae o yn amser mor fregus i fam yn y dyddia' cynnar yne, ac mae o'n gallu bod yn reit unig hefyd ar adegau, ac oedd jyst gw'bod bod yna rhywun yne i ganolbwyntio ar hynny hefo fi yn amhrisiadwy.
"Dwi'n meddwl fasa fo yn trasiedi fasa 'na ddim y gwasanaeth yma, o ran rhoi y dechre gore 'na i fabanod ac i famau yn y dyddie cynnar yne.
"I'r rhai sydd isio bronfwydo mae o'n hanfodol bwysig."
Cwmnïau fformiwla yn 'tanseilio' bronfwydo
Dywedodd Siwan Humphreys, darlithydd Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor, fod cymorth ar y dechrau'n bwysig i famau newydd.
"'Da ni'n gwybod fod merched isio bronfwydo a bod canran helaeth ohonyn nhw yn rhoi'r gora iddi yn reit fuan o gwmpas diwrnod 10, felly 'da ni'n gw'bod pa mor allweddol bwysig ydy o," meddai.
"Mae'r gofal mamolaeth yn darparu cefnogaeth arbennig o dda, ond mewn gwirionedd 'da ni angen lot, lot mwy na hynny.
"'Da ni angen sbio ar y darlun cyfan, rhan bach o'r jig-sô ydy hwnna."

Mae angen ymgyrch iechyd cyhoeddus i normaleiddio bronfwydo, meddai Siwan Humphreys
Ychwanegodd: "'Da ni angen edrych ar amodau gwell o ran tâl mamolaeth a tadolaeth i gefnogi merched i 'neud y penderfyniadau ynglŷn â sut maen nhw isio bwydo.
"'Da ni hefyd angen ymgyrch iechyd cyhoeddus grymus yn hyrwyddo bronfwydo o fewn ein diwylliant ni - normaleiddio fo mewn ffordd 'de.
"A 'da ni hefyd angen ystyried be ydy dylanwad y cwmnïau fformiwla, diwydiant fformiwla sydd efo dylanwad arbennig dros ferched.
"Maen nhw'n gwario miliynau o bunna' ar farchnata eu cynnyrch ac wrth wneud hynny yn tanseilio buddion bronfwydo."
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd8 Medi 2024
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021
Dywedodd Fiona Giraud, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Merched ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae cefnogi teuluoedd trwy'r camau cynnar o gynllunio beichiogrwydd hyd at flynyddoedd cynnar babi a thu hwnt yn hynod bwysig.
"Un o'r ystod o wasanaethau rydyn ni'n ei ddarparu yw'r Gwasanaeth Cefnogi Bwydo Babanod, sydd wedi'i dreialu yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers 2021 ac Ysbyty Glan Clwyd ers 2023.
"Mae cynlluniau tymor hir ar gyfer y gwasanaeth hwn ar draws ein holl safleoedd nawr yn cael eu hystyried fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi dechrau iach mewn bywyd i deuluoedd ar draws gogledd Cymru."