Y Cymro a ddyfeisiodd y sach gysgu

Pryce- Jones
Disgrifiad o’r llun,

Syr Pryce Pryce-Jones, dyn busnes a gwleidydd o Lanllwchaiarn ger Y Drenewydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r mwyafrif ohonom ni wedi treulio'r noson mewn sach gysgu ar ryw bwynt - yn gwersylla, ar ochr mynydd neu mewn caban gyda ffrindiau.

Ond a wyddoch chi fod sachau cysgu'n dod yn wreiddiol o ganolbarth Cymru?

Roedd Pryce Pryce-Jones yn entrepreneur arbennig o lwyddiannus yn Y Drenewydd yn ail hanner y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif.

Mae'r ffaith iddo fod yn arloeswr yn y byd busnes yn gwerthu nwyddau drwy'r post gan ddefnyddio cylchgronau yn eitha' enwog, ond efallai fod ei hanes yn cynhyrchu sachau cysgu ddim mor adnabyddus.

Diwydiant gwlân Y Drenewydd

Yn ystod y 19eg ganrif roedd Y Drenewydd a'r ardal yn ganolbwynt pwysig yn y diwydiant gwlân ac fe agorodd Pryce Pryce-Jones siop yn gwerthu gwlanen (flannel), gan ddefnyddio gwlân lleol.

Tyfodd y busnes a dechreuodd werthu i drefi a dinasoedd ymhell o'r Drenewydd, yn gyntaf gyda'r goets fawr, ac yna gyda threnau.

Mewn amser ehangodd ei fusnes a dechreuodd Pryce-Jones werthu i fannau ledled Ewrop, ac yn America ac Awstralia.

pryce jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae adeilad Pryce-Jones yn fan hanesyddol sydd dal yn rhan amlwg o'r Drenewydd hyd heddiw

Drwy ei system archebu drwy gatalog roedd gan Pryce-Jones filoedd o gwsmeriaid, Florence Nightingale a'r Frenhines Victoria a'i theulu yn eu plith.

Adeiladodd y Royal Welsh Warehouse - adeilad sydd dal i'w gweld yn amlwg yn Y Drenewydd hyd heddiw - i ddal yr holl gynnyrch oedd yn cael eu storio cyn cael eu hallforio ledled y byd.

Yr 'Euklisia rug'

Cafodd yr Euklisia rug, fel oedd yn cael ei alw gan Pryce-Jones, ei ddyfeisio yn yr 1870 a chafodd statws patent yn 1876, cyn cael ei ddosbarthu o'r Drenewydd i bedwar ban byd.

Er mai sach gysgu oedd o, roedd yn fwy o rỳg wedi'i blygu na sach. Roedd y rỳg wedi'i wnïo ar obennydd wedi'i leinio â rwber, yr oedd posib chwythu aer iddo. Roedd yn drwchus ac yn gynnes, gyda chlipiau i'w ddal gyda'i gilydd.

Mae dogfennau o archifdy Powys yn Llandrindod yn datgan bod 60,000 o'r sachau wedi eu gwerthu i Fyddin Rwsia a oedd yn ymladd yn erbyn Yr Ymerodraeth Ottoman. Roedd hyn yn golygu bod Pryce-Jones yn anfon 6,000 o'r sachau i Rwsia pob wythnos.

sach
Disgrifiad o’r llun,

Sach debyg i'r 'Euklisia rug' yr oedd Pryce-Jones yn ei gynhyrchu

Wedi Gwarchae Pleven 1877 fe drechodd y Rwsiaid y Twrciaid, ac o ganlyniad doedd y Rwsiad ddim angen llawer o'r sachau mwyach.

Golygai hyn felly, bod gan Pryce-Jones 17,000 dros ben, ac fe geisiodd eu gwerthu ar y farchnad leol a'u hallforio. Mae cofnodion o'r rỳg yn cael ei ddefnyddio yn y Congo ac 'outback' Awstralia.

Dim ond un o syniadau arloesgar Pryce-Jones oedd y rỳg Euklisia, ac mae'n debyg ei fod yn cael ei gofio orau fel tad siopa archebu drwy'r post, a chynhyrchydd un o gatalogau archebu post cyntaf y byd yn y 1860au.

Ond mae miliynau o bobl ledled y byd yn defnyddio sachau cysgu pob dydd, a gallwch ddadlau y gall rheiny ddiolch i'r Cymro o'r Drenewydd am eu cadw'n gynnes.